Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi £50,000 ychwanegol ar gyfer gofalwyr Cymru.

Daw hyn ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Gofalwyr.

Bydd y cyllid newydd yn darparu cymorth proffesiynol i fwy o ofalwyr di-dâl, a chymorth gan eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw.

“Hoffwn fynegi fy niolch a’m hedmygedd i bob gofalwr di-dâl yng Nghymru,” meddai’r Julie Morgan.

“Mae’r pandemig hwn yn dangos mor hollbwysig yw eu gofal, ac mae’n hanfodol, nawr yn fwy nag erioed, ein bod yn cydnabod gwerth gofalwyr di-dâl.

“Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi cyllid ychwanegol heddiw i gefnogi gofalwyr o bob oed i reoli straen eu rôl.”

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Genedlaethol Gofalwyr, bydd Julie Morgan yn ymuno â’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ddydd Mawrth (Mehefin 9) am “baned rithiol” gyda gofalwyr er mwyn “dysgu mwy am eu profiadau yn ystod y pandemig.”

Dywed Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru a Chadeirydd Cynghrair Gofalwyr Cymru: “Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle blynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl, tynnu sylw at yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a chydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau.

“Mae iechyd meddwl gofalwyr a’u gallu i ymdopi’n emosiynol wedi bod yn bryder cynyddol inni ers dechrau’r pandemig.

“Bydd y cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd mwy o ofalwyr a’u cefnogi yn y cyfnod heriol hwn.”