Mae arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi dweud y dylid bod wedi tynnu cofgolofn o’r masnachwr caethweision Edward Colston ym Mryste “amser maith, maith yn ôl”.

Cafodd y gofgolofn efydd o’r  ffigwr o’r 17eg ganrif ei dymchwel gyda rhaffau, ei llusgo drwy’r strydoedd a’i thaflu i’r harbwr yn ystod protest Black Lives Matter ddydd Sul, Mehefin 7.

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad i ddifrod troseddol i’r hyn a ddigwyddodd i’r gofgolofn, sydd wedi bod yn destun dadlau ers tro ym Mryste ble mae wedi bod yn sefyll ers 1895.

Dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn “hollol amhriodol” i’r gofgolofn gael ei thynnu i lawr yn y ffordd honno, ond ychwanegodd:

“Dylai’r gofgolofn fod wedi cael ei thynnu i lawr yn iawn gyda chaniatâd a’i roi, yn fy marn i, mewn amgueddfa.

“Roedd hwn yn ddyn a oedd yn gyfrifol am 100,000 o bobl yn cael eu symud o Affrica i’r Caribî fel caethweision, gan gynnwys menywod a phlant, oedd yn cael eu brandio ar eu brest gydag enw’r cwmni a redodd.

“O’r 100,000, bu farw 20,000 ar y ffordd ac fe gawson nhw eu taflu i’r môr.

“Ni ddylai fod ar gofgolofn ym Mryste nac yn unman arall. ”

Erlyn

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod y digwyddiad yn un gwbl warthus, ac mae’r Gweinidog Troseddu, Plismona a Chyfiawnder Kit Malthouse wedi galw am erlyn y rhai oedd yn gyfrifol.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi gwneud penderfyniad tactegol i beidio ag ymyrryd pan gafodd y gofgolofn ei diddymu, ei lusgo drwy’r ddinas a’i daflu i’r dŵr.

Ni wnaed unrhyw arestiadau ond mae swyddogion bellach yn casglu lluniau o bobl a ffilmiwyd yn cymryd rhan yn y weithred.

Sarhad

Dywedodd Marvin Rees, Maer Llafur etholedig Bryste na allai esgusodi’r difrod a’i fod hefyd yn pryderu am oblygiadau tyrfaoedd yn dod at ei gilydd o ran y pandemig coronafeirws.

“Byddai un o fy nghyndeidiau wedi cael ei gymryd ar long o Affrica i’r Caribî.

“Mae’r gofgolofn yn sarhad i mi.

“Nid yw’n rhywbeth y byddwn i fel un o Fryste wedi edrych arno gyda balchder ac roedd wedi bod yn destun dadl yn y ddinas.”

“Mae gennym ni gofgolofn i gofio rhywun wnaeth ei arian yn prynu a gwerthu pobl,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Mae’r gofgolofn bellach dan ddŵr, sy’n eironi barddonol a hanesyddol oherwydd, yn ddi-os, byddai pobl wedi cael eu taflu oddi ar ochrau’r llongau yn ystod y daith ac mae llawer o gyrff Affricanaidd ar waelod y dŵr.”

Dywedodd Marvin Rees y byddai’r gofgolofn yn cael ei thynnu allan o’r harbwr “rhywbryd” a’i roi mewn amgueddfa.