Mae hi’n “ddiwrnod o obaith” yn Iwerddon heddiw (dydd Llun, Mehefin 8) wrth i siopau ail-agor a chyfres o gyfyngiadau gael eu codi.

Bydd mwy o bobol yn gallu dychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys pobol sy’n gweithio ar ben eu hunain a’r sawl sy’n gallu gweithio’n ddiogel wrth gadw dau fetr ar wahân.

Yn sgil llacio’r cyfyngiadau, bydd pobol nawr yn cael teithio hyd at 20 cilomedr oddi wrth eu cartrefi, bydd grwpiau o chwech yn gallu cyfarfod tu fewn wrth ymbellhau’n gymdeithasol ac mae grwpiau o hyd at 15 o bobol yn cael cyfarfod tu allan ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.

“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i’n gwlad, mae’n ddiwrnod o obaith,” meddai Gweinidog Iechyd Iwerddon, Simon Harris.

“Bydd yno bobol sy’n dychwelyd i’r gwaith heddiw oedd ddim yn siŵr os fyddan nhw’n gallu mynd yn ôl i’w swyddi rai wythnosau yn ôl.

“Rwyf eisiau i’r diwrnod da droi’n wythnos dda, yn fis da ac yn flwyddyn dda, ac i ni barhau i symud ymlaen.”

Newid y rheol dau fetr i’r sector lletygarwch?

Dywed Simon Harris y gallai’r rheol dau fetr gael ei newid i’r sector lletygarwch os yw nifer yr achosion yn aros yn isel.

“Mae dau fetr yn bendant yn fwy diogel nag un, ond mae’r Tîm Argyfwng Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol wedi cydnabod fod yna rai sefyllfaoedd lle nad yw’n hawdd cadw at y rheol dau fetr,” meddai.

“Byddan nhw’n adolygu’r mesurau ymbellhau cymdeithasol yn y sector lletygarwch.”

Pobol dros 70 oed yn cael ymwelwyr

Bydd pobol sy’n 70 oed neu’n hyn yn gallu cael ymwelwyr i’w tai gyn belled a’u bod yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Tra bydd hyd at 25 o bobol nawr yn cael mynychu angladdau.

Bydd llyfrgelloedd yn dechrau ail-agor, yn ogystal â meysydd chwarae a gwersylloedd awyr agored, gyn belled mai dim ond 15 o bobol sydd yno.

Mae’n bosib y bydd marchnadoedd yn ail-agor a bydd rasio ceffylau a milgwn yn cael ail-ddechrau ond heb gynulleidfa.

Cafodd un farwolaeth coronafeirws ei chofnodi yn Iwerddon ddydd Sul (Mehefin 7), a 25 achos newydd o’r firws.

Daw hyn a’r cyfanswm o farwolaethau yn Iwerddon i 1,679, gyda 25,201 o achosion wedi’u cofnodi hyd yma.