Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cefnogi’r alwad am gael gwared ar gofebion Syr Thomas Picton o Neuadd Dinas Caerdydd a Chaerfyrddin.

Yn dilyn tynnu cerflun o’r masnachwr caethweision, Edward Colston, i lawr ym Mryste ddydd Sul (Mehefin 7) mae deisebau wedi eu lansio i alw am dynnu cofebion Syr Thomas Picton i lawr.

Deiseb

Mae un ddeiseb yn galw am dynnu i lawr obelisg 25 metr yng Nghaerfyrddin ac mae un arall galw am dynnu cerflun o Syr Thomas Picton o Neuadd Dinas Caerdydd.

Syr Thomas Picton – mae llawer yn galw am gael gwared ar gofebion iddo

Mae Maer Caerdydd, y Cynghorydd Daniel De’Ath, hefyd wedi ysgrifennu yn galw am dynnu Syr Thomas Picton o gasgliad ‘Arwyr Cymru’ yn Neuadd Dinas Caerdydd.

Mae’r ddeiseb ar-lein yn erbyn y gofeb i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin yn dweud:

“O ystyried y ffocws byd-eang presennol ar fudiad Black Lives Matter, mae’r gofeb hon yn bodoli fel atgof poenus o anwybodaeth Cymru i’n gorffennol trefedigaethol.

“Gwasanaethodd Thomas Picton fel llywodraethwr creulon Trinidad am bum mlynedd, gan arteithio’r ynyswyr a defnyddio ei safle i elwa o werthiant tir wedi’i ddwyn a chaethweision wedi’u cam-drin yn drwm, mor nodedig, mewn gwirionedd, fel bod y dudalen Wikipedia am y gosb ‘piced’ yn rhestru enw Picton cyn unrhyw un arall – felly pam fod y dyn hwn yn deilwng o gofeb 25m?

“Cafwyd Picton hyd yn oed yn euog o arteithio merch 14 oed, Louisa Calderon.

“Roedd yn ei chosbi am geisio dwyn oddi wrth y dyn a oedd yn ei cham-drin yn rhywiol.”

Annerbyniol

“Hyd yn oed yn ei oes ei hun, roedd triniaeth Picton o Louisa Calderon yn cael ei ystyried gan lawer yn wrthun” meddai Daniel De’Ath yn ei lythyr i Gyngor Caerdydd.

“Yr oedd yn sgandal enfawr […] Roedd siarad mawr am yr achos ar y pryd a thaflodd oleuni ar wirioneddau creulon y system drefedigaethol Brydeinig, ac yn anuniongyrchol ar gaethwasiaeth drefedigaethol.

“Rwy’n teimlo nad yw’n dderbyniol bellach i gerflun Picton fod ymysg ‘Arwyr Cymru’ yn Neuadd y Ddinas, ac rwy’n galw arnoch i drefnu ei symud o’r Neuadd Farmor ar adeg pan fydd adnoddau’n caniatáu, a phan y bydd yn ddiogel gwneud hynny.”

Angen ‘cymryd camau’

Yn ddiweddarach, gofynnwyd i’r Prif Weinidog Mark Drakeford am y digwyddiadau ym Mryste mewn cynhadledd i’r wasg.

Yn ôl Mark Drakeford, mae’r dyddiau lle dylen ni fod yn cerdded heibio i gerfluniau o’r fath a’u dathlu wedi mynd heibio, ac yn hytrach dylen nhw fod mewn amgueddfa.

Dywedodd, er nad oedd am weld golygfeydd fel yr un ym Mryste yng Nghymru oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd, ei fod o’r farn y “dylid cymryd camau” i roi’r fath gofgolofnau yn y cyd-destun cywir:

“Lle mae gennym gerfluniau i bobl y mae eu hanesion yn perthyn i’r gorffennol, ac yn nghyd-destun y gorffennol, yn hytrach na’u harddangos fel rhyw fath o ddathliad parhaus, dylid cymryd camau. ”

“Rwy’n gobeithio ac yn hyderus y bydd Cyngor Caerdydd yn ymateb mewn ffordd ofalus ac ystyrlon, gan ddeall y newid cyd-destun yn yr oes yr ydym yn byw ynddi.”

Cerflun H.M. Stanley

Mae deiseb arall hefyd wedi ei sefydlu heddiw; un sy’n galw am gael gwared ar gofeb i H.M. Stanley o dref Dinbych.

Codwyd y cerflun yn 2011, er bod llawer wedi gwrthwynebu’r cam. Dywed y ddeiseb: “Mae anrhydeddu H M Stanley gyda cherflun yn rhoi statws arwr iddo ac yn anwybyddu’r erchyllterau a gyflawnwyd […] Yn ystod ei deithiau Affricanaidd, roedd Stanley yn adnabyddus am ei ddulliau creulon, gan gynnwys defnydd helaeth o lafur gorfodol, am werthu llafurwyr i gaethweision, ac am losgi a dinistrio pentrefi.”