Mae Llywodraeth Cymru am lansio ymgynghoriad ar sefydlu safle rheoli nwyddau yng Nghaergybi.
Yn dilyn diwedd cyfnod pontio Brexit, mae angen nifer o wahanol wiriadau ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig, sy’n golygu fod yn rhaid sefydlu safleoedd rheoli ffiniau.
Yng Nghaergybi bydd angen cynnal archwiliadau ar nwyddau megis anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon.
Nwyddau
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r gwiriadau hyn er mwyn sicrhau nad yw nwyddau sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn peri risg i iechyd y cyhoedd, nac i ledaeniad clefydau anifeiliaid neu blanhigion.
Mae gwybodaeth wedi cael ei anfon at drigolion sydd o fewn 1km i Barc Cybi am y safle rheoli ffiniau fel rhan o’r ymgynghoriad.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Yn dilyn y newidiadau sylweddol i’n perthynas â’r Undeb Ewropeaidd mae’n ofynnol i ni sefydlu safle rheoli ffiniau ar gyfer porthladd Caergybi.
“Er bod yr amserlen wedi’i diwygio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno gwiriadau, rydym yn parhau i drafod gyda nhw er mwyn sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i addasu i’r amgylchiadau newydd mewn modd effeithiol, gan leihau unrhyw darfu ar ein busnesau yma yng Nghymru.”