Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant wedi cael eu datgelu yn ystod seremoni rithwir.

Dyma’r wythfed tro i’r gwobrau gael eu cynnal, ac maent yn gyfle i gydnabod cyflawniadau eithriadol pobol yng Nghymru, a phobol sy’n dod o Gymru.

Yn ogystal, mae’r seremoni yn gyfle i gydnabod gweithredoedd a chyfraniadau pobol o bob cefndir yn ystod y flwyddyn.

Cyhoeddodd Mark Drakeford fod yr Athro Keshav Singhal yn derbyn Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Yr Athro Singhal yw Cadeirydd grŵp Asesu Risg Covid-19, grŵp a gafodd ei sefydlu ar ddechrau’r pandemig, a arweiniodd at ddatblygu adnodd Asesu Risg Covid-19 Cymru Gyfan.

“Grŵp ysbrydoledig o bobol”

“Mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yn grŵp ysbrydoledig o bobol yr ydym yn lwcus i’w cael yn byw ac yn gweithio yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford yn ystod y seremoni rithwir.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol. Mae pandemig y coronafeirws wedi achosi llawer o dristwch a thorcalon – ond mae hefyd wedi ysgogi’r gorau ymhlith llawer o bobl. Dim ond cyfran fach o’r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw yw’r enillwyr heno, ac maent yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom.”

Enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yw:

DewrderJohn Rees, Lisa Way, ac Ayette Bounouri

BusnesLittle Inspirations

Ysbryd y GymunedDeial i Deithio Sir Ddinbych

Gweithiwr HanfodolCartref Gofal Cherry Tree

Diwylliant a ChwaraeonDelwyn Derrick

Gwobr DdyngarolJohn Puzey

Arloesedd, Gwyddoniaeth a ThechnolegY Fenter Ymchwil Busnesau Bach / Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Person IfancMolly Fenton, Ymgyrch Love Your Period

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog – Yr Athro Keshav Singhal MBE