“Mae diogelwch ein staff yn hollbwysig i ni, ac mae hynny wedi bod yn wir trwy gydol yr argyfwng” – dyna mae Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) wedi ei ddweud mewn llythyr at Bwyllgor Dethol Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin.
Mae gan yr asiantaeth tua 6,000 o weithwyr sydd yn gweithio yn Abertawe, a dros y misoedd diwethaf mae llu o adroddiadau wedi bod ynghylch achosion covid ymhlith staff.
Hyd yma mae dros 500 o’u gweithwyr yn y ddinas honno wedi dal yr haint, a diwedd y llynedd cofnodwyd dros 300 achos o fewn pedwar mis.
Yn ymateb i gwestiynau gan ASau, mae Julie Lennard bellach wedi taflu golau dros y sefyllfa gan bwysleisio bod y sefydliad yn trio eu gorau glas i ddiogelu staff.
“Rydym wedi buddsoddi cryn dipyn er mwyn sicrhau bod ein hystâd yn ddiogel rhag covid, gan weithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, tîm iechyd amgylcheddol Cyngor Abertawe a’r undeb,” meddai.
“Mae’r Gweithredwr Iechyd a Diogelwch hefyd wedi ymweld â’n safle, a daeth i’r casgliad nad oedd gweithredu pellach yn angenrheidiol.
“Trwy gydol yr argyfwng rydym wedi gweithredu cyngor Llywodraeth Cymru a gofynion deddfwriaethol yn llawn – gan gynnwys canllawiau gweithle ar gyfer swyddfeydd a chanolfannau.”
Beirniadaeth leol
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, wedi galw ar i’r corff leihau nifer y staff sydd yn gweithio yn y swyddfa (yn hytrach nag o adre).
Ac mae undeb PCS (Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol) wedi cyhuddo’r sefydliad o orfodi gweithwyr i weithio yn swyddfa Abertawe.
Yn y llythyr mae Julie Lennard yn mynnu bod yna “weithgarwch allweddol nad oes modd i’r DVLA ei gyflawni o adre” – prosesu ceisiadau post ar gyfer trwyddedau gyrru, ac ati.
Mae hefyd yn pwysleisio bod camau wedi’u cymryd er mwyn gwneud gweithleoedd yn fwy diogel, gan gynnwys symud desgiau er mwyn sicrhau pellhau cymdeithasol, a sustemau cerdded unffordd yn y swyddfa.
Ffigurau covid
Mae’r llythyr yn rhannu tipyn o ystadegau yn gysylltiedig ag achosion.
Rhwng Mawrth y llynedd a Chwefror 4 eleni, mae cyfanswm o 577 achos positif wedi’u cofnodi ymhlith staff. Ar Chwefror 16 dim ond tri pherson oedd gyda’r feirws.
Cafodd yr achos cyntaf ei gofnodi ar Fawrth 11 2020. Daeth y “mwyafrif helaeth” o achosion o fis Medi ymlaen, yn ôl y Prif Weithredwr.
Mae’r llythyr yn pwysleisio bod achosion oddi fewn i’r DVLA wedi dilyn patrwm tebyg i’r gymuned yn ehangach yn Abertawe.
Awgrym Julie Lennard yw bod achosion wedi codi wrth i’r sefyllfa ddwysau yn Abertawe – nid oherwydd diwylliant o esgeuluso iechyd staff.
Hyd yma mae’r DVLA wedi gwario £3.6m er mwyn sicrhau bod yr ystâd yn ddiogel rhag covid, ac er mwyn rhentu adeilad newydd.