Yn sgil y pryderon ynglŷn â chynnydd mewn achosion Covid-19 mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi penderfynu cau i’r cyhoedd unwaith eto.

Eglurodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar gyfryngau cymdeithasol i’r penderfyniad gael ei wneud er lles y cyhoedd.

Bydd y llyfrgell yn cau ei drysau nos Fercher, Rhagfyr 16, ac yn parhau ar gau tan o leiaf fis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Blwyddyn anodd

Daw’r penderfyniad ar ddiwedd blwyddyn anodd i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Fis yn ôl, fe wnaeth Pedr ap Llwyd ddisgrifio cyflwr ariannol y Llyfrgell, a’i pherthynas â Llywodraeth Cymru fel sefyllfa “hollol anghynaladwy”.

Roedd hyn yn dilyn adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i sefyllfa’r Llyfrgell cyn argyfwng y coronafeirws.

Mae’r adroddiad yn dweud bod incwm y Llyfrgell wedi cwympo 40% – mewn termau real – rhwng 2008 a 2019.

Wrth siarad gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu dywedodd bod dyfodol y llyfrgell yn ddibynnol ar barodrwydd y Llywodraeth i roi “sylw brys” i ofynion ariannol y sefydliad.

Swyddi yn y fantol

Bu David Michael, Dirprwy Brif Weithredwr y Llyfrgell, hefyd yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fis Tachwedd.

Dywedodd bod niferoedd staff wedi disgyn o tua 300, i tua 225, ac y byddai angen cwtogi 30 yn rhagor dros y 12 mis nesa’ er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

Er mwyn osgoi gorfod gwneud y fath doriadau byddai angen “o leiaf £1.5m yn rhagor ar gyfer refeniw gwaelodol”, meddai.

Fodd bynnag dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Dafydd Elis Thomas nad oedd y Llyfrgell Genedlaethol wedi ei thrin yn “annheg”.