Mae hyder yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r argyfwng coronafeirws wedi disgyn yn sylweddol ers iddi gyflwyno rheolau newydd ar fusnesau lletygarwch, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Mae’r un peth yn wir am ymddiriedaeth yn Mark Drakeford fel Prif Weinidog hefyd.

Gosododd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar Ragfyr 4 a oedd yn gorfodi tafarndai, bariau, bwytai a chaffis i roi’r gorau i werthu alcohol ac i gau erbyn 6yh, gan ysgogi beirniadaeth gan wleidyddion y cyhoedd a gwleidyddion y gwrthbleidiau.

Dangosodd pôl piniwn YouGov, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth (Rhagfyr 15), fod 47% o bobol bellach yn credu bod y Llywodraeth yn gwneud job wael, cynnydd o 19 pwynt canran o’r 28% a ddywedodd hynny ym mis Tachwedd cyn i’r rheolau newydd ddod i rym.

Canfu hefyd mai dim ond 45% sy’n credu bod y Llywodraeth yn gwneud yn dda, gostyngiad o 21 pwynt canran o gymharu â’r 66% a ddywedodd hynny fis yn ôl.

Gostyngodd cefnogaeth i Mark Drakeford, gyda 44% bellach yn dweud eu bod yn ymddiried ynddo, gostyngiad o 11 pwynt canran, tra bod nifer y bobl a ddywedodd nad ydynt yn ymddiried ynddo lawer neu o gwbl wedi codi 12 pwynt canran i 45%.

Dangosodd y bleidlais farn gymysg ymysg y cyhoedd yng Nghymru ar y cyfyngiadau diweddaraf ar letygarwch, gyda 46% yn eu gwrthwynebu a 45% o blaid.

Wrth amddiffyn y penderfyniad ar y pryd, dywedodd Mark Drakeford: “Rwy’n gwneud y penderfyniadau rwy’n eu gwneud oherwydd rwy’n gwybod mai nhw yw’r penderfyniadau cywir ac y byddan nhw’n achub bywydau yma yng Nghymru.

“Hyd yn oed pan fydd y penderfyniadau’n anodd, cyn belled â’m bod yn gallu edrych ar fy hun yn y drych a gwybod fy mod yn gwneud yr hyn rwy’n ei gredu – gyda’r holl dystiolaeth yr ydym yn ei defnyddio a’r cyngor a gawsom – a bod y Llywodraeth hon yn gwneud y peth iawn.”

Dal yn fwy poblogaidd na Boris Johnson a’i Lywodraeth

Er hyn dangosodd pôl piniwn YouGov hefyd fod Mark Drakeford a’i Lywodraeth yn dal i fwynhau mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd yng Nghymru o’i gymharu â Boris Johnson a’i Lywodraeth yn San Steffan.

Canfu bod 67% nad ydynt yn ymddiried yn y Prif Weinidog i wneud y penderfyniadau cywir o gymharu â 26% sydd â hyder ynddo, tra bod 62% yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â’r pandemig yn wael o gymharu â 31% sy’n credu ei fod yn gwneud yn dda.

Ac mae 53% o’r bobl a holwyd yn dal i ffafrio’r dull a gymerwyd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r feirws o gymharu â dim ond 15% y mae’n well ganddynt y dull gweithredu yn Lloegr, gyda chwarter (25%) gan ddweud na fyddent yn hapus â’r naill na’r llall.

Roedd yr arolwg wedi  holi 1,031 o oedolion 16 oed a throsodd rhwng Rhagfyr 7 ac 11.