Mae’n rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig fod yn agored i’r syniad o ffurfio clymblaid yn y Senedd, neu fel arall byddan nhw’n cael “eu gadael ar y cyrion”.
Dyna ddywedodd David Melding, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd sydd wedi bod yn y Bae hiraf, mewn ymddangosiad diweddar ar bodlediad.
Yn siarad ar y podlediad ITV Cymru The New Normal with Adrian Masters dywedodd yr AS y byddai ei blaid ond yn medru sefydlu llywodraeth yng Nghymru trwy daro dêl â phlaid arall.
Plaid Cymru yw’r gobaith gorau yn hynny o beth, meddai, a rhybuddiodd ei blaid rhag diystyru gweithio â phleidiau eraill.
“Dyma fy neges i fy mhlaid: er mwyn i ni fod yn berthnasol, rhaid i bobol ein hystyried yn llywodraeth posib,” meddai.
“Ac a bod yn onest, ar hyn o bryd, all hynna ond ddigwydd os ffurfiwn glymblaid. Ac ar hyn o bryd byddai’r [glymblaid] hynny â Phlaid Cymru.
“Mae Llafur wedi arwain pob llywodraeth yng Nghymru, [ac mae’n bosib] bod yn rhaid gweithio â phlaid arall er mwyn cynnig dewis [i etholwyr] – dewis dyw democratiaeth ddim wedi ei gynnig yng Nghymru hyd yma.
“Allwch fod yn burydd os dyna ydych chi eisiau, ond mae hynny’n eich gadael ar y cyrion.”
Dywedodd hefyd bod yna “gryn dipyn o gonsensws naturiol yn y Senedd” a bod y Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Blaid wedi dod yn “agos iawn” at ffurfio ‘clymblaid enfys’ yn 2007.
Daw’r ymddangosiad wedi i Darren Millar, AS Ceidwadol, awgrymu na fydd cymaint o gydweld rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a gweddill pleidiau’r Senedd mwyach.
Gellir ystyried ei sylwadau yn gyfeiriad slei at David Melding a’i ymdrechion yntau i annog cydweithio rhwng pleidiau’r Bae.
Melding yn “ochneidio”
Wedi 20 mlynedd o fod yn AS, fydd David Melding ddim yn sefyll yn etholiad flwyddyn nesa’.
Ar ddechrau’r mis mi ymddiswyddodd yn Gwnsler Cyffredinol Cysgodol y Ceidwadwyr, gan rannu gofidion am Fil y Farchnad Fewnol ac ymdrechion ei blaid yn San Steffan.
Yn siarad ar y podlediad wnaeth e’ hefyd rannu ei farn am sgandal Dominic Cummings – prif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Boris Johnson – a’i drip i gastell yng ngogledd Lloegr.
“Roedd hynny’n ddigwyddiad mawr,” meddai. “Oll ddyweda’ i yw y bydd y Prif Weinidog yn talu pris uchel am gefnogi rhywun y byddai’r rhan fwyaf o bobol yn ystyried yn dramgwyddwr.
“Roedd yr holl beth yn barodi ar adegau. Trip 30-40 milltir i wirio eich llygaid. Wnaeth rhai ohonom ochneidio at ystyfnigrwydd rhywun yn peidio â chyfaddef camgymeriad.”
Ymddangosodd ar y podlediad cyn iddo ildio’i bortffolio ar y cabinet cysgodol yn y Senedd.