Mae un o’r aelodau sydd wedi bod yn y Cynulliad ers y dechrau un yn 1999, wedi datgelu na fydd yn sefyll yn etholiad Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Mae’r Ceidwadwr David Melding wedi cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru yn y Bae ers ugain mlynedd a mwy – un o’r ychydig rhai sydd dal yno ers dechrau’r Cynulliad.
“Erbyn yr etholiad Senedd nesaf mi fydda’ i wedi gwasanaethu am 22 blynedd, a dw i wedi penderfynu mai nawr yw’r amser i gyhoeddi na fydda’ i’n sefyll i gael fy ailethol,” meddai’r gwleidydd sy’n cael ei ystyried yn un o feddylwyr mwya’ praff Bae Caerdydd.
Ac mae yn addo na fydd yn diflannu o’r tirlun gwleidyddol yn llwyr.
“Dw i’n bwriadu bod yn ddinesydd-gwleidydd creadigol a drygionus…
“Hoffwn ddiolch i bobol rhanbarth Canol De Cymru. A hoffwn ei gwneud hi’n glir y bydda’ i’n parhau i ymdrechu drostyn nhw tan i mi adael y Senedd.”
“Cyfraniad anhygoel”
Mae Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, wedi galw David Melding yn un o “bencampwyr democratiaeth a datganoli Cymru”, ac wedi dweud “all neb gymryd ei le”.
“Mae’n anodd gorbwysleisio cyfraniad anhygoel David i dirwedd gwleidyddol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac i lwyddiant datganoli,” meddai Paul Davies.
“Dros ei 21 blynedd – ers ei dymor cyntaf – yn Aelod Cynulliad mae wedi dod â mewnwelediad, tact, dadleuon rhesymegol, a ffraethineb i fywyd a gwaith y Senedd, a llefydd eraill.”
Mae’n debyg bod David Melding yn bwriadu parhau i ddatblygu ei felin drafod, Gorwel, yn sgil ei ymadawiad.