I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, mae canolfan siopau Dewi Sant yng Nghaerdydd yn gwerthu darnau lego o “arwyr bychan Cymreig”.

Bydd y fersiynau bach plastig o Gareth Bale, Gareth Thomas, ‘Nessa’ Gavin and Stacey, Syr Tom Jones a Shirley Bassey ond ar gael i’w prynu ar y cyntaf o Fawrth, sef Dydd Gŵyl Dewi, gyda’r holl elw yn mynd i elusennau Cymreig.

Mae 50 o bob “arwr” wedi eu creu a’r cyntaf i’r felin fydd hi, gyda’r lego ar werth ddydd Sul rhwng 11 y bore a phump yr hwyr.

Rhaid i brynwyr dalu o leiaf £5 am un o’r darnau, gyda’r arian yn mynd i goffrau Canolfan Canser Felindre, Tŷ Hafan, Pride Cymru, Plant y Cymoedd ac elusen ysbyty plant Arch Noa.

“Gwych”

“Rydym yn edrych ymlaen at weld ymateb cwsmeriaid i’r darnau, rydan ni wedi gwirioni gyda nhw ac mae’n wych gweld y cymeriadau’n dod yn fyw,” meddai Rheolwr Marchnata canolfan siopau Dewi Sant, Hywel Butcher.

“Mae’r pum elusen sy’n elwa’r o’r ymgyrch yn gwneud gwaith anhygoel wrth gefnogi ein cymunedau. Yr oll rydym yn ei ofyn yw eich bod yn codi un ohonynt a gwneud cyfraniad – neu gallwch brynu’r holl set a chwblhau eich casgliad.”

Bydd yr “arwyr bychan Cymreig” yn cael eu harddangos ar lefel isaf canolfan siopa Dewi Sant ger siop Clogau.