Mae Boris Johnson yn parhau i gefnogi ei brif ymgynghorydd Dominic Cummings ac wedi mynnu ei bod yn bryd “symud ymlaen” wedi honiadau o dorri’r cyfyngiadau.
Roedd y Prif Weinidog wedi gwrthod galwadau ddoe (Mai 27) gan Ysgrifennydd y Cabinet Syr Mark Sedwill yn galw am gynnal ymchwiliad i weithredoedd Dominic Cummings yn ystod y pandemig.
Roedd Dominic Cummings wedi gyrru o Lundain i Durham er mwyn ynysu gyda’i deulu yn ystod y cyfyngiadau ac yn dweud ei fod wedi teithio i Gastell Barnard er mwyn gweld a oedd yn ddigon iach i yrru cyn dychwelyd i Lundain.
Daw sylwadau’r Prif Weinidog wrth i nifer o aelodau Ceidwadol ei feirniadu ac wrth i boblogrwydd y blaid ostwng yn y polau piniwn.
Mae o leiaf 35 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi galw ar Dominic Cummings i ymddiswyddo.
Roedd Boris Johnson yn wynebu cwestiynau ASau wrth iddo fynd gerbron Pwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin.
Dywedodd: “Dw i ddim yn credu bod cynnal ymchwiliad i’r mater ar hyn o bryd yn ddefnydd da o amser swyddogol. Ry’n ni’n gweithio’n ddiflino ar y coronafeirws.”