Cafodd y cynllun gwerthu cyfranddaliadau ar gyfer prynu’r Tŵr yn nhafarn Penlan Fawr Pwllheli ei lansio ar brynhawn Sul heulog ddechrau mis Hydref. Roedd Penlan yn orlawn, y gefnogaeth yn heintus a’r band lleol poblogaidd Pys Melyn yn diddanu. Mae’r egni cadarnhaol hwnnw i’w deimlo ym Mhwllheli yn ddiweddar, ac erbyn Tachwedd 1 roedd dros £88,000 o siârs wedi eu prynu. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhai hynny sydd eisoes wedi cefnogi, ac mae’n dda gweld y gefnogaeth i’r fenter yn mynd o nerth i nerth. Er hynny, mae amser yn ein herbyn gan fod rhaid casglu’r swm o £400,000 erbyn Tachwedd 16.

Mae’r adeilad eiconig sydd yn sefyll yn gadarn yng nghanol stryd fawr Pwllheli yn cael ei weld fel yr angor mae’r dref ei hangen. Mae’r Tŵr yn gartref i dafarn, bwyty, a gwesty ac mae ystafell gyfarfod fawr, ceginau, gardd gwrw ac iard braf gyda nifer o weithdai yn y cefn. Dyma leoliad fydd yn agor y drysau i brosiectau o’r newydd, yn dod a phobol ynghyd ac yn cynnig lleoliad ychwanegol o safon er mwyn annog ymwelwyr o bell ac agos i aros ymlaen a chadw’r gwariant o fewn yr ardal. Bydd Y Tŵr yn cydweithio efo busnesau llwyddiannus eraill y dref, yn dathlu a hyrwyddo hanes cyfoethog Pwllheli a’r ardal ac yn help i godi’r hen dref arbennig hon yn ôl ei thraed unwaith eto.

Mae’r ymgais i brynu Y Tŵr wedi gweld cynnydd mewn gweithgarwch cymunedol gyda phrynhawn llwyddiannus ym mwyty Nomi ar Stryd Fawr Pwllheli a noddwyd gem arbennig tîm pêl-droed merched Pwllheli v Wrecsam gan Fenter Y Tŵr. Braf iawn oedd gweld cymuned gyfagos Efailnewydd yn dangos eu cefnogi’r fenter drwy gynnal taith gerdded “O Dwr i Dwr” i gasglu arian.

Cafodd dyddiau Paned a Chacen prysur dros ben eu cynnal yn siop Steil, Stryd Fawr, Pwllheli ar Hydref 28, a chymaint ei lwyddiant fel y byddwn yn agor y drysau yn Steil unwaith eto ar Dachwedd 4 ac 11. Braf oedd gweld cymaint o gefnogaeth a diddordeb a’r ymdeimlad o gymuned ar y stryd fawr, a daeth ambell i unigolyn arbennig iawn fu’n rhan o hanes Y Tŵr dros y blynyddoedd i hel atgofion dros baned a chacen. Galwch draw i Steil rhwng 10yb a 4yp ddydd Sadwrn, Tachwedd 4 ac 11. Byddwn yn falch iawn o’ch gweld.

Mae’r gefnogaeth gan fusnesau llwyddiannus cyfagos yn galonogol dros ben, gyda’r lansiad wedi’i gynnal yn nhafarn Penlan ar Hydref 1. Mae raffl fawr gan stiwdio gwallt SOLO ar y stryd fawr, a chynhelir noson Blasu Caws a Gwin yn Y Whitehall Pwllheli nos Iau, Tachwedd 9. Mae’r tocynnau i’w cael am £18 yr un yn Y Whitehall, Gemwaith J&L a Steil Stryd Fawr Pwllheli, gyda’r elw yn mynd at fenter Y Tŵr.

Gofynnwn yn garedig i chi ystyried prynu cyfranddaliad cyn iddi fod yn rhy hwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gyrrwch e-bost atom i post@ytwr.cymru, neu galwch draw i’n gweld yn Steil 10yb-4yp ddydd Sadwrn, Tachwedd 4 ac 11. Byddwn yn falch o gael eich cyfarfod a thrafod syniadau.

Mae modd prynu cyfranddaliadau o £100 hyd at £50,000 fel unigolyn neu grŵp, drwy fynd ar y wefan www.ytwr.cymru a dilyn y cyfarwyddiadau. Fel perchennog ar gyfranddaliad, byddwch yn aelod o’r fenter a bydd gennych bleidlais wrth i benderfyniadau gael eu gwneud. Mae nifer yn prynu cyfranddaliad fel anrheg pen-blwydd neu Nadolig i’w hanwyliaid, ac yn benodol ar gyfer plant, gan y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn elwa ar yr adnodd anhygoel hwn.

Annog y cyhoedd i gyfrannu at apêl Menter Y Tŵr

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn cefnogi’r apêl

Menter gymunedol i brynu gwesty ym Mhwllheli’n cyrraedd y cam nesaf

Cadi Dafydd

“Mae o’n rywbeth wneith gynnal cenedlaethau yn y dyfodol, dyna ydy’r prif yrrwr”