Mae un fydd yn cyflwyno hyfforddiant ar Amrywiaeth Diwylliannol i wasanaethau plant ac oedolion ddiwedd y mis yma’n galw am “ddulliau mwy soffistigedig, wedi’u teilwra, i ddiwallu anghenion penodol gwahanol gymunedau lleiafrifol”.

Mae hyn “yn hytrach na thrin pob grŵp lleiafrifol fel un sydd dan anfantais neu sydd â’r un anghenion”, yn ôl Zaira Munsif, Pennaeth Adran Hyfforddi BAWSO, fydd yn cyflwyno’r hyfforddiant.

Mae’r hyfforddiant hanner diwrnod gan BAWSO ar Dachwedd 27, fydd yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, yn agored i weithwyr gwasanaethau plant ac oedolion.

Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r prif ddiwylliannau a chrefyddau o fewn y Deyrnas Unedig, a sut i weithio’n gadarnhaol gyda diwylliannau amrywiol.

Mae BAWSO yn cefnogi pobol o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu menywod, priodasau dan orfodaeth, masnachu pobol, a phuteindra.

Amcanion yr hyfforddiant yw:

  • diffinio diwylliant
  • datblygu ymwybyddiaeth o arferion crefyddol gwahanol
  • datblygu dealltwriaeth o wahanol arferion a gwerthoedd diwylliannol
  • adnabod sut mae ein credoau’n effeithio ar sut rydym yn deall diwylliant
  • deall sut i ymdrin â chymunedau amrywiol
  • datblygu dealltwriaeth o fframwaith deddfwriaethol sylfaenol yng nghyd-destun cyfle cyfartal.

Datblygiad cymdeithasol ac economaidd

Yn ôl Zaira Munsif, mae’r gwahaniaethau mae cymunedau lleiafrifol yn eu cynnig o fudd i’r gymdeithas a’r economi.

“Wrth i boblogaeth Cymru ddod yn fwy amrywiol, mae’n hynod bwysig manteisio ar y gwahaniaethau mae’n ei olygu, er budd datblygiad cymdeithasol ac economaidd y genedl,” meddai Zaira Munsif wrth golwg360.

Nodau’r hyfforddiant yn ôl Zaira Munsif yw “codi ymwybyddiaeth am ddiwylliannau a chrefyddau, gwneud i bobol deimlo’n gyffyrddus i ofyn cwestiynau am ddiwylliant a beth mae pobol yn credu, deall rhwystrau cymunedau Du ac Ethnig Lleiafrifol, gan roi’r gwasanaeth gorau iddyn nhw”.