Mae angen mwy o weithgareddau am ddim i bobol ag awtistiaeth, yn ôl mam dynes o Abertawe.

Mae gan Cath Dyer un ferch sydd wedi cael diagnosis awtistiaeth, ac mae hi’n aros i glywed am ddiagnosis ei merch arall.

Dywed ei bod hi’n ffodus fod ei merch sydd wedi cael diagnosis yn derbyn 31 awr yr wythnos o ofal gan gwmni sy’n mynd â hi o’r tŷ i wneud amryw o weithgareddau, megis nofio a sgïo.

Fodd bynnag, pryder Cath Dyer yw nad yw pawb yn yr un sefyllfa.

Daw hyn wedi i ymchwil gan Dr Gemma Williams o Brifysgol Abertawe ddarganfod fod pobol awtistig bedair gwaith yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobol heb awtistiaeth.

Yn ôl yr ymchwil, mae pobol awtistig yn aml yn gweld eisiau gallu cysylltu â rhywun ar yr un lefel â nhw, ond mae heriau ariannol a chymdeithasol yn eu dal yn ôl.

Diffyg cyfleoedd i gymdeithasu

Yn ôl Cath Dyer, does dim digon o gyfleoedd i bobol ifanc ag awtistiaeth i gymdeithasu ar ôl gadael yr ysgol.

“Mae lot o bobol ifanc yn yr ysgol, ac maen nhw’n cael cymorth ac maen nhw ma’s drwy’r dydd,” meddai wrth golwg360.

“Ond unwaith maen nhw’n gadael yr ysgol, does dim lot ma’s yna iddyn nhw.

“Felly maen nhw’n teimlo’n unig, ac mae’r holl deulu’n teimlo’n unig.”

Cyfle i fyw yn annibynnol

Dywed Cath Dyer ei bod yn bwysig sicrhau cyfleoedd i bobol ifanc ag awtistiaeth fynd a bod yn annibynnol, a chael eu trin fel pawb arall.

“Dw i’n gwybod fod lot o bobol yn byw gyda’u teulu, wedi cwpla’r ysgol a does dim ma’s yna iddyn nhw,” meddai.

“Os nad oes pobol yno i fynd â nhw ma’s, mae’n galed i wybod ble i fynd.”

Yn ôl Cath Dyer, bu i sawl canolfan ddydd gau yn ystod y pandemig, ac o ganlyniad does dim llawer o gymorth ar gael yn ei hardal hi.

“Bydde fe’n lyfli os gallan nhw ailagor eto, achos maen nhw’n llefydd i bobol sydd ag anghenion arbennig jest i fynd am gwpl o oriau neu ddiwrnod cyfan, ac ymlacio a gwneud rhywbeth gwahanol,” meddai.

Yn yr un modd, dywed fod yr argyfwng costau byw yn ei gwneud hi’n anoddach i deuluoedd fynd â’u plant allan am y dydd.

“Mae popeth wedi mynd lan, ac mae’n galed i bawb fyw,” meddai.

“Ond i bobol sydd ag anghenion arbennig, os ydyn nhw’n mynd ma’s i wneud gweithgareddau yn y gymuned, mae popeth yn costio, ac felly mae rhaid cael arian i allu gwneud pethau.”

Mwy o weithgareddau am ddim

Er bod cynlluniau fel y cerdyn Hynt yn bodoli er mwyn i bobol ag anghenion ychwanegol a’u gofalwyr arbed arian mewn theatrau neu ganolfannau celfyddydau, nid pawb sy’n ymwybodol ohonyn nhw.

“Mae eisiau mwy o bwyslais ar beth sy’n gallu helpu pobol ag awtistiaeth o ran arian,” meddai Cath Dyer.

“Mwy o weithgareddau am ddim, mwy o lefydd i bobol fynd, ac efallai mwy o fanylion am beth sy’n digwydd, jest i bawb gael yr hawl a theimlo’n gyfforddus.

“Mae awtistiaeth yn sbectrwm anferth, mae rhai’n gallu siarad ac ati, ond os yw pobol yn teimlo’n gyfforddus gyda’u cwmni mae’n haws i bawb.”

Mae Paul Davies, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi bod yn galw am Fil Awtistiaeth er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mae teuluoedd yn eu hwynebu.

Ond dydy Cath Dyer ddim yn hyderus y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr.

“Bydde fe’n neis i ddweud ‘Ydw, dw i’n meddwl byddai fe’n gwneud gwahaniaeth,” meddai.

“Ond roedd fy merch i mewn uned naw mlynedd yn ôl, a does dim lot wedi newid yn y naw mlynedd ers iddi ddod adref.”

Er hynny, mae hi’n credu ei bod yn bwysig i barhau i wthio amdano.

Deddf Awtistiaeth: ‘Lot o siarad ond mae angen gweithredu’

Elin Wyn Owen

Mae Cath Dyer yn cytuno â Mark Isherwood fod yr angen am ddeddf yn parhau
Stadiwm Swansea.com

Yr Elyrch yn ymgynghori â chefnogwyr awtistig

Cyfarpar synhwyraidd wedi cael ei dreialu yn ystod gêm yn ddiweddar

Awtistiaeth: “Dim yn waeth na’r teimlad o unigrwydd”

Mam dynes ifanc ag awtistiaeth yn galw am gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru