Bu'n rhaid i Claire Dyer fynd i Loegr gan nad oedd gwasanaethau ar ei chyfer yng Nghymru
Mae mam dynes ifanc o Abertawe wedi dweud wrth Golwg360 fod angen deddfwriaeth er mwyn osgoi’r “teimlad o unigrwydd” ymhlith pobol awtistig.

Cafodd Claire Dyer, 21, o Dregŵyr ger Abertawe, ei hanfon i Brighton ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg benderfynu nad oedd lleoliad addas ar ei chyfer yng Nghymru.

Cafodd deiseb ei sefydlu yn y gobaith o sicrhau y câi hi ddychwelyd adref – ac fe lofnododd 95,000 y ddeiseb honno.

Dychwelodd Claire, sy’n dioddef o awtistiaeth ac anableddau dysgu, adref yn 2014 ac mae ei theulu wedi bod yn gofalu amdani yn eu cartref yn Abertawe, gyda chymorth meddygon a gweithwyr iechyd.

Cafodd cynnig yn y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth ei wrthod ar ôl i Lywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â’r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams, bleidleisio yn ei erbyn.

Ond mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wedi dweud bod y “drws yn dal ar agor” yn y dyfodol.

Roedd ymrwymiad i sicrhau deddfwriaeth ym maniffesto pob plaid ac eithrio Llafur adeg etholiadau’r Cynulliad.

Mae lle i gredu y bydd Kirsty Williams yn cyfarfod ag ymgyrchwyr ddydd Llun i drafod y sefyllfa.

‘Meddwl agored’

Dywedodd Rebecca Evans wrth raglen Sunday Politics Wales fod angen cadw “meddwl agored” ar ôl cyflwyno gwasanaeth integredig ar gyfer awtistiaeth chwe mis yn ôl.

“Mae’n gyfnod cyffrous ar hyn o bryd yn nhermau’r gwasanaethau a’r gefnogaeth ry’n ni’n eu cynnig i bobol yng Nghymru.

“Mae gyda ni Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sydd ond yn chwe mis oed, a’i bwriad yw trawsnewid y ffordd rydyn ni’n cyflwyno gwasanaethau a chefnogaeth i bobol sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, beth bynnag yw eu cyflwr.”

Dywedodd y byddai bylchau yn y drefn bresennol yn cael eu llenwi drwy’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol, sydd hefyd yn chwe mis oed.

“Mae hwn yn tynnu ynghyd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chefnogaeth i ddod o hyd i waith, er enghraifft. Fe fydd yn cymryd golwg gyfannol ar anghenion pobol ag awtistiaeth.

“Rydyn ni’n creu system ddiagnostig newydd i blant ag awtistiaeth yng Nghymru ac erbyn Mawrth 2017, ni ddylai plant fod yn aros mwy na 26 wythnos i gael asesiad. Ac mae hynny wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad o £2 miliwn bob blwyddyn.”

Ychwanegodd fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant eisoes yn gorfodi awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion eu poblogaethau, a bod cynnal arolwg o’r niferoedd o bobol awtistig yn rhan o hynny.

Ar hyn o bryd, meddai, does dim angen deddfwriaeth ychwanegol.

“Ry’n ni wedi edrych ar y Bil Awtistiaeth arfaethedig. Ry’n ni hefyd wedi edrych ar y Ddeddf Awtistiaeth sydd mewn grym dros y ffin yn Lloegr. Does dim byd yn y Bil na’r Ddeddf dros y ffin nad ydyn ni’n ei gyflwyno neu sydd y tu hwnt i’n pwerau ni.

“Yn yr ystyr hynny, mae’n well gyda ni fwrw ati i gyflwyno ar gyfer pobol awtistig yn hytrach na chreu deddfwriaeth gan ein bod ni’n awyddus i wneud cynnydd nawr.”

Annigonol

Ond dydy’r hyn sydd eisoes wedi cael ei wneud yng Nghymru ddim yn ddigonol, yn ôl Cath Dyer.

Dywedodd wrth Golwg360: “Yn fy marn i, mae angen deddf yn bendant. Does dim lot ar gael i blant nac oedolion ag awtistiaeth, ac mae angen i blant gael y diagnosis pan ydyn nhw’n ddigon ifanc.

“Ar ôl diagnosis, mae angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw a’u rhieni. Sdim yn waeth na’r teimlad o unigrwydd. Ry’ch chi’n meddwl mai dim ond eich plentyn chi sy’n diodde.

“Er mwyn y person – does dim ots os yw’n blentyn neu’n oedolyn – mae angen i rieni gael yr hawl i siarad drostyn nhw ym mhob dewis a phob rhan o’u bywydau.

“Fel arfer mae gweithwyr proffesiynol yn gwneud penderfyniadau ar ran y person, ac mae’r rhieni yn cael eu hanwybyddu. Ddylai hyn byth ddigwydd.

“Ond ry’n ni fel teulu’n gwybod fod hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd.

“Mae cael deddf yn bwysig iawn yng Nghymru i sicrhau cymorth a chefnogaeth i blant tra eu bod nhw’n ifanc ac i sicrhau bod popeth yn ei le ar eu cyfer nhw wrth dyfu i fyny.

“Mae gan bobol awtistig yr un hawl i gael bywyd [ag unrhyw un arall] ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod.

“Mae’n iawn i ni godi ymwybyddiaeth, ond mae angen lot mwy.”