'Y Jyngl' yn Calais
Mae eglwys ar safle ffoaduriaid y ‘Jyngl’ yn Calais sy’n cael ei ddymchwel wedi cynnal ei gwasanaeth olaf.

Roedd yr eglwys dan ei sang ar gyfer y gwasanaeth fore Sul, a’r rhan fwyaf o’r eglwyswyr o Eritrea yng ngorllewin Affrica.

Cafodd yr eglwys ei hadeiladu gan y ffoaduriaid ar y safle, oedd yn gartref i 10,000 o bobol ar ei anterth.

Ond mae’r gwaith o ddymchwel y safle, sydd hefyd yn cynnwys siopau a bwytai, yn parhau i fynd rhagddo.