Mae astudiaeth newydd sy’n darogan effaith tywydd poeth yn ninasoedd Cymru yn y dyfodol yn dweud y gallai lefel y gwres “beryglu bywydau” erbyn 2080.
2023 oedd y flwyddyn gynhesaf ar gofnod yng ngwledydd Prydain, ac fe wnaeth y gwres eithafol yn ystod haf 2022 achosi bron i 3,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl amcangyfrifon.
Yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd, byddai gwres fel y cafwyd bryd hynny, pan aeth y tymheredd i fyny i 40 gradd selsiws un diwrnod, yn cael ei ystyried yn flwyddyn oer erbyn 2100.
Yn sgil hynny, mae grŵp o ymchwilwyr o Gymru a Tsieina wedi bod yn ystyried sut y gallai cynnydd o’r fath mewn tymheredd effeithio ar bobol yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam.
‘Amodau annerbyniol’
Er mwyn amcangyfrif straen gwres – sef lefel y straen sy’n cael ei brofi gan gerddwyr yn sgil gwres – roedd y model yn dadansoddi data ar ymbelydredd, tymheredd yr aer, cyflymder y gwynt, lleithder, yn ogystal â chyfradd fetabolaidd ac inswleiddiad dillad pobol yn yr ardaloedd trefol hyn.
Roedd hefyd yn ystyried tymheredd arwynebau waliau, tir, lawntiau, llwyni, nodweddion dŵr, ac effaith cysgodol coed.
Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod disgwyl i straen gwres brig ar bobol gynyddu 4.5 gradd selsiws erbyn 2080, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
Ynghyd â hynny, mae disgwyl i ganran oriau’r dydd heb straen gwres leihau’n sylweddol, o 30-80% i 10-70% erbyn 2080.
Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos y gallai straen gwres yn ystod oriau poethaf y diwrnod “gynyddu’n sylweddol”, gyda’r tymheredd yn uwch na 41 gradd selsiws yng Nghaerdydd a Chasnewydd erbyn 2080, a hyd at 37 gradd selsiws yn Wrecsam.
Byddai cerddwyr yn rhannau poetha’r dinasoedd yn profi straen gwres cryf (rhwng 32 a 38 gradd) a chryf iawn (rhwng 38 a 46 gradd) yn sgil hynny.
“Byddai’r amodau hyn yn annerbyniol, ddim yn iach a hyd yn oed yn peryglu bywyd poblogaeth na fydd, o bosib, wedi addasu i amodau mor boeth,” medd yr adroddiad.
“Mae disgwyl iddi gynhesu’n arafach yn Wrecsam nag yng Nghaerdydd a Chasnewydd.”
Mesurau lliniaru yn “hanfodol”
Daw’r papur i’r casgliad fod mesurau lliniaru yn hanfodol er mwyn lleihau straen gwres yn y dyfodol yn ninasoedd a threfi Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys ymyriadau megis cynyddu mannau gwyrdd trefol, pyllau, llynnoedd, coed a chysgod artiffisial.
“Mae’r prosiect hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein dealltwriaeth o gysur a lles yn yr awyr iach yn ein dinasoedd yn y dyfodol, ac ar yr un pryd yn cynnig dirnadaeth i ni o sut i liniaru eithafion yn y dyfodol,” meddai’r Athro Phil Jones o Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, fu’n rhan o’r ymchwil.
“Roedd y gwaith hwn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein galluogi i ddefnyddio adnoddau modelu trefol sy’n cael eu datblygu drwy ein cydweithrediad â’r Athro Jianxiang Huang ym Mhrifysgol Hong Kong.
“Mae’n dangos pa mor bwysig yw defnyddio adnoddau o’r fath ac ystyried sut i fynd i’r afael ag unrhyw ymyriadau cynllunio yn ein dinasoedd, a phwysigrwydd eu rhoi ar waith heddiw er mwyn effeithio ar amgylcheddau dinesig y dyfodol.”
‘Plannu coed mewn ardaloedd trefol’
Dywed Peter Frost, Ymgynghorydd Seilwaith Gwyrdd Trefol Cyfoeth Naturiol Cymru, ei fod yn gobeithio y bydd yr astudiaeth yn annog “camau pendant” i blannu mwy o goed mewn ardaloedd trefol, er mwyn creu’r cysgod sydd ei angen fel bod dinasoedd yn llefydd braf i fyw yn ystod tywydd poeth.
“Bydd yr un coed hefyd yn helpu ein cymunedau i wrthsefyll newid hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid a lleihau effaith stormydd a llifogydd drwy arafu llif dŵr glaw,” meddai.
“Rydyn ni eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, ledled y byd ac yma yng Nghymru gyda’r tywydd poethaf erioed wedi’i gofnodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd effeithiau tywydd poeth yn y dyfodol yn beryglus iawn.
“Mae gwres gormodol hefyd yn amharu ar gysur ac yn tarfu ar weithgareddau awyr agored sy’n gysylltiedig â manteision iechyd hirdymor, fel ymarfer corff, ymgysylltu a mwynhau gwahanol lefydd.”
Mae’r papur, sydd wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Building and Enviornment, ar gael i’w weld am ddim tan Fawrth 14.