Mae dyn o Borthmadog yng Ngwynedd wedi marw wrth rwyfo o Gran Canaria i Barbados ar gyfer elusen.

Fe gychwynnodd Michael Holt ar ei daith 3,000 filltir ar draws Cefnfor yr Iwerydd ddydd Sadwrn, Ionawr 27 er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen, sef Mind a Gwasanaethau Gwirfoddol ac Elusennol Lerpwl.

Bu’n dioddef o salwch y môr am ran o’r daith, meddai ei deulu, ac er iddo deimlo’n well am gyfnod, daeth y salwch yn ôl wythnos yn ôl.

Roedd hefyd yn byw â chlefyd y siwgr, Math 1.

Ar ôl cael trafferth trefnu cymorth i deithio ato, cafwyd hyd iddo wedi marw yn y cwch dros y penwythnos.

Dydy ei deulu ddim yn siŵr ar hyn o bryd sut y bu farw.

Y daith

Symudodd Michael Holt, 54, i Borthmadog yn 13 oed ac roedd o bellach yn byw yn Nghilgwri.

Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd rwyfo, ond bu’n hyfforddi ar gyfer y daith ers dwy flynedd.

Cychwynnodd ei siwrne o Pasito Blanco yn Gran Canaria ychydig ddyddiau’n hwyrach na’r disgwyl, oherwydd gwyntoedd cryfion.

Y bwriad oedd cyrraedd Porthladd St Charles yn Barbados, oedd yn golygu rhwyfo am fwy nag 16 awr y dydd ac ymdopi â phedair awr o gwsg y dydd.

Byddai’r siwrne wedi cymryd rhwng 50 a 110 o ddyddiau i’w chyflawni.

‘Cyflawniad ynddo’i hun’

Er iddo ddioddef gyda salwch y môr ar ddechrau’r daith, roedd pethau’n dechrau newid ac roedd Michael Holt yn teimlo’n well.

Ond ar Chwefror 18, rhannodd ei deulu’r newyddion bod y salwch wedi dychwelyd.

“Mae’n anarferol i salwch môr ddychwelyd mor bell i mewn i’r daith, pan lwyddodd i ddod drosto ar ôl yr ychydig ddyddiau cyntaf, ond gall ddigwydd,” meddai ei deulu ar Facebook.

“Gallai hefyd fod yn achos arall – efallai anoddefiad bwyd o rysáit benodol y mae wedi’i fwyta nad oedd wedi cyflwyno ei hun tan nawr, neu mae hyd yn oed firysau yn y dŵr môr a allai ei wneud yn sâl efallai.”

Roedd yn defnyddio peiriant dihalwyno ar ei gwch, oedd yn casglu dŵr y môr ac yn hidlo popeth allan, fel graddfeydd pysgod, gwymon, halen, a hyd yn oed bacteria a firysau.

Roedd yn teimlo ei fod wedi gwella am ddiwrnod, ond daeth y salwch yn ôl unwaith eto a phenderfynodd ddod â’r daith i ben, gan newid cyfeiriad tuag at ynysoedd Cape Verde – tua 300 milltir i’r de o’i leoliad ar y pryd.

Daeth y cyfathrebu i ben wedi hynny, gan godi pryderon am ei gyflwr.

Penderfynodd y teulu gychwyn ymgyrch i ddod o hyd iddo ddydd Mercher (Chwefror 21).

Cyrhaeddodd cwch pysgota ei gwch nos Sadwrn (Chwefror 24), a chafwyd hyd iddo yn ei gaban.

“Wrth gwrs, nid hwn oedd y diweddglo yr oeddem yn chwilio amdano, ond rwyf wedi fy nghysuro ychydig o wybod iddo farw yn gwneud rhywbeth yr oedd am ei wneud gydag angerdd a llwyddodd i rwyfo dros 700 milltir yn y broses,” meddai David Holt, ei frawd, ar Facebook.

“Cyflawniad ynddo’i hun.

“Mae hyn yn sioc enfawr i mi fy hun, ei wraig Lynne a’i ferch Scarlett a fy rhieni, heb sôn am deulu a ffrindiau ehangach.

“Diolch yn fawr iawn am y geiriau a’r dymuniadau caredig rydych chi eisoes wedi’u hanfon atom yn ystod y dyddiau diwethaf.

“Maen nhw’n golygu llawer iawn i’r teulu cyfan.”