Bydd stopio ymweliadau’r heddlu ag ysgolion yn “golled fawr”, medd un fu’n gwneud y gwaith am bron i ddegawd.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i ariannu cynllun School Beat Cymru, oedd yn caniatáu i 68 o heddweision gynnal gwersi am ymddygiad, camddefnyddio sylweddau, diogelwch, a diogelu mewn ysgolion ledled y wlad.

Fydd y cynllun ddim yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o fis Ebrill, er mwyn arbed £2m y flwyddyn.

Ond mae Comisiynwyr yr Heddlu’n dweud y byddan nhw’n parhau i ariannu’r cynllun tan fis Gorffennaf.

Mae deiseb wedi cael ei lansio hefyd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r cynllun.

Dadl Llywodraeth Cymru yw eu bod nhw’n canolbwyntio ar amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yn eu cyllideb ar gyfer 2024-25.

‘Colled fawr’

Yn ôl Sue Davies, fu’n swyddog cyswllt ysgolion gyda Heddlu’r Gogledd ym Meirionnydd rhwng 2004 a 2013, mae’n “drist colli rhywbeth da”.

Bu’n ymweld â phum ysgol uwchradd y sir unwaith yr wythnos, a phob un o ysgolion cynradd y sir unwaith bob tymor.

“Dros y blynyddoedd, roeddwn i wedi meithrin perthynas wych efo disgyblion, staff ac athrawon mewn ysgolion,” meddai wrth golwg360.

“Roedden nhw wedi dod i fy adnabod i, a fi’n eu hadnabod nhw.

“Roeddwn i fel wyneb positif i’r heddlu, hwyrach, lle’r oedd rhai, hwyrach, ddim wedi cael profiad cadarnhaol efo’u heddlu nhw.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n golled fawr – nid yn unig yr ochr addysgiadol, ond y cyswllt.

“Mae’r rhaglen wedi meithrin cydweithio cadarnhaol rhwng yr heddlu a’r awdurdod addysg.

“Pan mae yna broblemau fel bwlio seibr neu ddiogelwch ar y rhyngrwyd, mae’r swyddogion cyswllt ysgolion, fel arfer, ar y cyd â’r ysgolion, yn ymdrin â’r problemau’n ddyddiol.

“Dw i ddim yn gallu gweld bod gan blismyn rheng flaen yr adnoddau na’r amser i ymdrin efo’r materion hyn unwaith y byddan nhw’n diddymu’r rhaglen.”

‘Rhoi’r ffeithiau’

Dywed Sue Davies, ddaeth yn Swyddog Cyswllt Ysgolion pan gafodd y rhaglen ei chyflwyno, fod y cynllun yn berthnasol i ddiogelwch personol disgyblion, ynghyd ag elfennau o’r cwricwlwm.

“Wrth i ni ddod mewn i ddysgu’r pynciau yma mae o’n rhywbeth mae’r plant yn mynd i gofio mwy, hwyrach, nag os fysa’r athro dyddiol wedi rhoi’r un ffeithiau,” meddai wedyn.

“Mae’r gwersi hefyd yn berthnasol i broblemau cymdeithasol a throseddol, fel troseddau cyllyll a llinellau sirol ac ati.

“Roedden ni’n rhoi’r ffeithiau i’r disgyblion gael yr adnoddau i wneud y penderfyniad cywir.

“Mae o’n drist; mae plismyn lleol yn mynd a dod, ond efo’r swyddog cyswllt ysgolion doeddet ti ddim yn cael un newydd bob blwyddyn.

“Dw i’n eu gweld nhw’n mynd i golli rhywbeth da.”

‘Effaith negyddol’

Mae deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r cynllun yn dweud y bydd ei ddiddymu’n cael effaith negyddol ar ysgolion ac adnoddau’r heddlu.

“Ynghyd ag addysgu disgyblion, mae swyddogion heddlu’r ysgolion yn ymateb i ddigwyddiadau mewn ysgolion,” medd y ddeiseb.

“Maen nhw wedi magu sgiliau a gwybodaeth benodol i fynd i’r afael â phroblemau ac adeiladu perthnasau gydag ysgolion a disgyblion.

“Heb swyddog heddlu penodol, bydd ysgolion yn gorfod galw 101, a allai lethu’r ganolfan gyfathrebu a rhoi pwysau ychwanegol ar swyddogion ymateb cyffredin.

“Mae digwyddiadau, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, yn rhywbeth cyson, ac mae cael swyddog penodol yn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon o ymdopi â’r fath sefyllfaoedd.”

‘Gweithio gyda’r heddlu’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda’r heddlu ar effaith y newidiadau cyllido.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau eraill yng Nghymru yn wynebu’r pwysau ariannol anoddaf a welwyd ers tro byd,” meddai.

“Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn am ymrwymiadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac achub bywydau.

“Er gwaetha’r gyllideb heriol, mae ein cyllid ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau rheng flaen wedi’i ddiogelu o hyd ar £67m.

“Mae hynny’n cynnwys mwy o ddyraniadau wedi’u clustnodi ar gyfer plant a phobl ifanc, sef £6.25m.

“O ganlyniad, rydym wedi penderfynu dod â chyfraniad Llywodraeth Cymru i Raglen Ysgolion yr Heddlu i ben.

“Daw’r arian hwnnw o’r gyllideb camddefnyddio sylweddau ar hyn o bryd.

“Mae’r sefyllfa o ran llesiant dysgwyr mewn sawl maes pwysig wedi newid yn sylweddol ers i’r rhaglen gael ei sefydlu; yn enwedig ers cyflwyno’r cwricwlwm newydd.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r heddlu ar effaith y newidiadau cyllido, a byddwn yn parhau i wneud hynny.”