Dywed un o drefnwyr digwyddiad yn Abertawe ddydd Sadwrn (Chwefror 24) i nodi dwy flynedd ers i Rwsia ymosod ar Wcráin fod y dorf wedi “mwynhau dod ynghyd, er gwaetha’r rheswm trist a’r dagrau oedd yn aml yn gorchuddio’u hwynebau”.

Ymhlith y dorf roedd Wcreiniaid a thrigolion lleol Abertawe, Llanelli, Llandeilo, Rhydaman, Castell-nedd, Port Talbot a Chaerdydd.

Yn annerch y dorf roedd Dmitri Finkelshtein o Sunflowers Wales; y Cynghorydd Alyson Pugh; yr offeiriad Taras Boychuk o’r Eglwys Gatholig Uniongred Roegaidd sy’n pregethu yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac a fydd yn pregethu yn Abertawe yn fuan; Oksana Harries o Sunflowers Wales; ac Olga Bakar, oedd wedi trefnu’r cylch canu.

Cafodd y cylch canu, lle mae’r dorf yn dal dwylo i ganu caneuon poblogaidd, ei drefnu gan y coreograffydd Lyudmyla Kazmiruk, sy’n gweithio gyda’r grŵp dawns fu’n perfformio yn y digwyddiad hefyd.

Cafodd nifer o ganeuon eu canu yn y cylch, y rhan fwyaf ohonyn nhw gan gôr plant Wcreinaidd o Gaerdydd, gan gynnwys eu hanthem genedlaethol.

“Ar y diwrnod, roedd hi’n arbennig o bwysig i bawb ohonom gael ffrindiau o’n cwmpas, teimlo geiriau o gefnogaeth a dangos ein hundod,” meddai Sunflowers for Ukraine ar eu tudalen Facebook.

“Felly roedd hi’n braf gweld cynifer o bobol hyfryd dreuliodd amser i ddod i gefnogi Wcráin.

“Roedd yn emosiynol ar y cyfan.

“Fe wnaeth pobol fwynhau dod ynghyd, er gwaetha’r rheswm trist a’r dagrau oedd yn aml yn gorchuddio’u hwynebau.”