Cafodd Seachtain na Gaeilge le Energia, gŵyl Wyddeleg fwyaf y byd, ei lansio ddydd Sadwrn (Chwefror 24) yn Baile Bhlainséir (Blanchardstown) ger Dulyn.

Bydd y Seachtain hir yn rhedeg o Fawrth 1 hyd at Fawrth 17 – rhwng Gŵyl Ddewi a Gŵyl San Padrig – ac mae gwahoddiad i’r cyhoedd gymryd rhan yn yr ŵyl drwy fynychu digwyddiadau Gwyddeleg a defnyddio’u Gwyddeleg mewn unrhyw ffordd y gallan nhw yn ystod yr ŵyl.

Cafodd y lansiad ei gynnal mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Blanchardstown, gyda cherddoriaeth a digwyddiadau i’r teulu cyfan.

Daeth cyhoeddiad eisoes mai’r llysgenhadon ar gyfer yr ŵyl eleni yw Gráinne Seoige, Kayleigh Trappe ac Aindriú de Paor.

Caiff Seachtain na Gaeilge, gafodd ei chynnal am y tro cyntaf ym 1902, ei threfnu gan fudiad Conradh na Gaeilge, gyda chefnogaeth Foras na Gaeilge ac Energia.

‘Cyfle gwych’

Wrth siarad yn y lansiad, bu’r criw fu wrthi’n trefnu’n annog pawb i fynychu’r digwyddiadau a “gwneud y mwyaf” o’r cyfle i ddefnyddio’r iaith yn ystod yr ŵyl.

“Cawsom ddigwyddiad gwych yma yn Baile Bhlainséir i nodi lansiad swyddogol Seachtain na Gaeilge le Energia,” meddai Conchubhair Mac Lochlainn, cadeirydd Seachtain na Gaeilge le Energia, yn ystod y lansiad.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm yma yng Nghanolfan Blachardstown am eu holl waith ar y digwyddiad yn ogystal â Craobh Pobal 15 o Conradh na Gaeilge, am ein helpu i lansio’r ŵyl fwyaf yn y byd yn yr iaith Wyddeleg.

“Grwpiau cymunedol yw calon y Seachtain na Gaeilge le Energia, ac ni fyddai’r ŵyl yn bodoli heb y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud bob blwyddyn.

“Mae Seachtain na Gaeilge le Energia yn gyfle gwych i’r cyhoedd ddefnyddio, ymarfer a dysgu Gwyddeleg gyda’i gilydd,” meddai Orlaith Nic Ghearailt, rheolwr Seachtain na Gaeilge le Energia.

“Rydym yn annog y cyhoedd i wneud y mwyaf o’r cyfle i ddefnyddio’u Gwyddeleg yn ystod Seachtain na Gaeilge le Energia eleni.

“Rydym yn falch iawn o lansio Seachtain na Gaeilge le Energia yma yng Nghanolfan Blanchardstown heddiw, ac ni allwn aros i weld digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Iwerddon ac ymhellach i ffwrdd rhwng Mawrth 1-17, 2024.”