Mae Urdd Gobaith Cymru wedi diolch i’w cefnogwyr am alluogi’r mudiad i gynnig gwyliau haf i fwy nag erioed o blant a phobol ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol.
Diolch i gyfraniadau gan unigolion, cymdeithasau, busnesau a chynghorau lleol at y gronfa ‘Cyfle i Bawb’, bydd modd i’r Urdd gynnig lle i 300 o blant a phobol ifanc difreintiedig yng Ngwersylloedd Haf y Mudiad eleni, o’i gymharu â 110 y llynedd.
Bob haf ers 2019, mae’r gronfa wedi galluogi cannoedd o blant a phobol ifanc i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd.
Ail-lansiodd yr Urdd yr apêl ym mis Tachwedd, gan fwy na dyblu’r targed ar gyfer 2024, ar ôl derbyn y nifer uchaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y gronfa yn 2023.
Mae modd i rieni, gwarcheidwaid neu ysgolion lenwi’r ffurflen gais er mwyn gwneud cais am wyliau ar ran plentyn drwy nawdd y Gronfa.
Dyddiad cau ceisiadau yw Ebrill 19.
‘Diolch o waelod calon’
Mae’r cyhoeddiad wedi’i groesawu gan rieni’r rheiny fynychodd y Gwersyll Haf y llynedd drwy nawdd y gronfa.
“Roedd y ddwy ferch yn ddigon lwcus i gael gwyliau haf llynedd drwy gefnogaeth Cronfa i Bawb yr Urdd, ac maen nhw’n dal i siarad amdano heddiw,” meddai un rhiant, Emily Bolwell o Gasnewydd.
“Roedd y merched wrth eu bodd yn gallu defnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol, ac maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau newydd.”
“Diolch o waelod calon i’r holl gyfranwyr am gefnogi ein hymgyrch, a rhoi cyfle i fwy nag erioed o blant sy’n profi tlodi neu fywyd heriol i fwynhau yng Ngwersylloedd Haf yr Urdd eleni,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Mae mynd ar wyliau haf yn rywbeth mae rhai yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae llawer o blant yng Nghymru yn byw mewn amgylchiadau lle nad oes cyfle i gael gwyliau haf.
“Mae’r Urdd – a’r Gymraeg – yn perthyn i bawb, ac mae’n bwysig i ni fel Mudiad estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru.
“Diolch i garedigrwydd unigolion, cymdeithasau, busnesau, a chynghorau lleol fel ei gilydd, bydd modd i blant a phobol ifanc o deuluoedd incwm isel, o dan adain gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr ifanc a phlant maeth, fwynhau gwyliau haf eleni.”
Bydd 19 o Wersylloedd Haf yn cael eu cynnal rhwng Gwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan a Chaerdydd yr haf hwn.
Mae’r Gwersylloedd Haf yn cynnwys cwrs perfformio, cyrsiau llesiant, gwersylloedd i ddysgwyr, yn ogystal â gwersylloedd antur a gwersylloedd haf traddodiadol i blant a phobol ifanc wyth i 25 oed.
Mae rhestr lawn o ddyddiadau Gwersylloedd Haf 2024 yr Urdd ar wefan y mudiad.