Mae Offeiriad Pererindod wedi cael ei phenodi ym Mhen Llŷn i adfywio’r arfer o bererindota i’r ardal.
Fel rhan o dîm gweinidogaeth Bro Enlli, bydd y Parchedig Jane Finn yn arwain gwasanaethau i bererinion ac yn cynnig croeso a lletygarwch iddyn nhw.
Bydd Jane Finn yn cynnal gweddïau pererinion rheolaidd yn Eglwys Sant Hywyn wrth i bobol basio ar eu ffordd i Ynys Enlli.
Y bwriad ydy codi proffil teithiau pererinion drwy’r esgobaeth i Ynys Enlli, yn ôl Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor.
Bydd hi’n gweithio mewn partneriaeth â phwyllgor ysbrydolrwydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, i adlewyrchu pwysigrwydd Ynys Enlli fel cyrchfan olfan Taith Pererin Gogledd Cymru a Llwybr Cadfan.
Ynghyd â hynny, bydd Jane Finn yn creu canolfan rithwir fydd yn fan ymgynnull digidol ar gyfer unigolion sydd â chysylltiadau ag eglwysi ledled yr esgobaeth drwy bererindod.
‘Croeso a lletygarwch’
Mae Jane Finn yn ymuno ag Esgobaeth Bangor ar ôl gadael Esgobaeth Llanelwy, lle bu’n offeiriad-yng-ngofal Dinbych.
“Rwy’n falch iawn o dderbyn y rôl newydd gyffrous hon yn Esgobaeth Bangor, i fod yn bresenoldeb gweladwy, ac i ddatblygu gweinidogaeth o groeso a lletygarwch ar gyfer pererinion ar eu taith ysbrydol,” meddai.
“Rwy’n angerddol am fynd gyda phobl ar eu teithiau ffydd, a gyda diddordeb a gweinidogaeth hir yn ysgrifennu, datblygu ac arwain pererindod, rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â’r rôl hanfodol hon.
“Rwy’n edrych ymlaen at gerdded yn ôl traed hynafol i gario neges o gariad a gobaith yr efengyl i eraill.”
‘Dilyn ôl-troed Cadfan’
Dywed y Parchedig Rhun ap Robert, Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, bod hwn yn amser cyffrous i Fro Enlli, wrth iddyn nhw edrych ymlaen at groesawu’r Offeiriad newydd.
“Mae Jane, wrth gwrs, yn dilyn ôl-traed Cadfan a’i griw sydd wedi cynnig lletygarwch i bererinion ar eu ffordd i Enlli gan nid yn unig roi noddfa, ond sicrhau bod y ffydd Gristnogol yn parhau hyd heddiw,” meddai.
“Daw Jane gyda phrofiad helaeth o arwain a chynllunio gweinidogaeth i bererinion yn ogystal ag i blant a phobol ifanc, ac mae ganddi weledigaeth glir ac mae hi’n byrlymu efo egni.
“Yn fwy na dim, mae Jane yn berson gweddigar ac mi fydd hi’n rhan allweddol o’n gwaith wrth i ni barhau â gwaith y seintiau gynt a chyd-gerdded â Duw a phob un sy’n troedio’r rhan hon o’i winllan.”
‘Codi proffil teithiau pererinion’
Ychwanega’r Canon David Morris, Cyfarwyddwr y Weinidogaeth, ei fod yn “falch iawn” o’r penodiad.
“Rydym yn gobeithio codi proffil teithiau pererinion drwy ein hesgobaeth i Enlli, yr ynys hynafol a sanctaidd, gan ofalu am anghenion bugeiliol ac ysbrydol pererinion,” meddai.
“Bydd Jane yn dod â brwdfrydedd, egni a chreadigrwydd mawr i’r rôl hon.”