Bydd cynghorwyr yn penderfynu ar enw ysgol Gymraeg newydd Gwent yr wythnos hon.

Y Cyngor llawn sy’n gyfrifol am enwi ysgolion, ond mae Cyngor Sir Fynwy yn dweud eu bod nhw’n ymgynghori â llywodraethwyr ac wedi ceisio barn corff llywodraethu dros dro’r ysgol sy’n cael ei sefydlu yn Nhrefynwy.

Mae disgwyl i’r ysgol agor ym mis Medi, gan ddod yn drydedd ysgol gynradd Gymraeg y sir.

Yr enw arfaethedig ydy Ysgol Gymraeg Trefynwy, er bod adroddiad ar gyfer y Cyngor yn cynnwys y gair ‘cynradd’ hefyd wrth gyfeirio ati yn Saesneg.

Bydd yr ysgol ‘egin’ yn agor mewn dosbarthiadau sydd wedi cael eu hadnewyddu yn ysgol Saesneg Overmonnow, fydd yn aros ar agor.

Mae’r model egin yn golygu mai dim ond disgyblion oed meithrin, derbyn ac o bosib Blwyddyn 1 fydd yno yn y flwyddyn gyntaf, a bydd blwyddyn newydd yn cael ei hychwanegu bob blwyddyn academaidd nes y bydd y disgyblion fydd ym mlwyddyn Derbyn neu 1 ym mis Medi yn cyrraedd Blwyddyn 6.

Erbyn hynny, bydd hi’n ysgol gynradd arferol i blant rhwng tair ac unarddeg oed.

Yr enwau eraill gafodd eu hystyried oedd Ysgol Bro Mynwy ac Ysgol Glannau’r Gwy.

Eto, mae adroddiad y Cyngor yn cynnwys y gair ‘cynradd’ wrth gyfieithu’r enwau i Saesneg, er nad yw’r gair yn y fersiynau Cymraeg.

‘Enw answyddogol’

Mae’r adroddiad yn nodi mai Ysgol Gymraeg Trefynwy sy’n cael ei ffafrio, gan fod yr ysgol yn darparu addysg i Drefynwy a’r gymuned ehangach, gan gynnwys Rhaglan a Brynbuga.

Mae’n nodi hefyd eu bod nhw wedi ystyried “y ffaith fod yr ysgol yn cael ei galw’n Ysgol Gymraeg Trefynwy yn answyddogol yn barod”.

Bydd gofyn i gynghorwyr ddweud a ydyn nhw’n cytuno ag Ysgol Gymraeg Trefynwy fel enw, pan fyddan nhw’n cwrdd yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga ddydd Iau, Chwefror 29, a byddan nhw’n cael gwybod fod cael enw’n hanfodol “i ganiatáu i’r cam nesaf o’r cynllunio ar gyfer yr ysgol ddechrau yn fuan”.

Mae’r Cyngor wedi hysbysebu ar gyfer Pennaeth yn barod, ac mae’r adroddiad yn dweud y bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus baratoi dogfennau a pholisïau fel rhan o’r gwaith o sefydlu’r ysgol.

“Fel rhan o’r gwaith, mae camau i ddatblygu ‘brandio’ yr ysgol newydd yn hollbwysig, gan gynnwys dylunio arwyddion yr ysgol a’r logo, gwisgoedd ysgol ac ati,” medd yr adroddiad.

“Yn amlwg, mae’r gwaith hwn yn ddibynnol ar benderfynu ar enw’r ysgol newydd.”

Ysgol Gymraeg y Fenni ac Ysgol Gymraeg y Ffin yng Nghil-y-coed yw’r ddwy ysgol gynradd Gymraeg arall yn y sir.