Mae angen i Brif Weinidog nesaf Cymru ddiogelu parciau cenedlaethol y wlad, yn ôl ymgyrchwyr yn y maes.

Daw galwad yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol a’r Gynghrair dros Dirweddau Dynodedig Cymru 75 mlynedd ers i’r Parciau Cenedlaethol gael eu sefydlu.

Mae Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol a’r Gynghrair wedi cyhoeddi cynllun gweithredu deg pwynt i sicrhau dyfodol hirdymor y parciau, ac maen nhw’n galw ar y Prif Weinidog nesaf i’w weithredu’n llawn.

Mae’r cynllun yn cynnwys caniatáu i bob plentyn ymweld â Pharc Cenedlaethol fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol, mwy o reoleiddio ar AirBnb a llety gwyliau, a rheolau tynnach i fynd i’r afael â llygredd dŵr.

Y cynllun

Yn rhan o’r cynllun, maen nhw’n galw am:

  1. ymrwymiad hirdymor i gyllid gan y Llywodraeth, a fframwaith cryf i ddenu a rheoleiddio buddsoddiad y sector preifat. Maen nhw’n galw am adfer cyllid, mewn termau real, i lefelau 2010 ac am ymrwymiad ariannu ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt
  2. Parc Cenedlaethol newydd ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru
  3. rhaglen ddynodi yn y dyfodol i gynnwys Tirweddau Cenedlaethol newydd (yn enwedig Mynyddoedd Cambria) ac ymestyn Parciau Cenedlaethol i amgylcheddau morol
  4. cefnogi ymdrechion ffermwyr i adfer natur mewn tirweddau dynodedig drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy “gwell”
  5. hawl i bob plentyn yng Nghymru gael antur mewn Tirwedd Ddynodedig gyda phrofiadau dysgu awyr agored yn rhan greiddiol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol
  6. sicrhau bod yr ardoll ymwelwyr arfaethedig a diwygiadau ail gartrefi o fudd uniongyrchol i Barciau a Thirweddau Cenedlaethol
  7. dod â llygredd dŵr i ben mewn tirweddau dynodedig
  8. sicrhau mynediad hamdden ehangach i gefn gwlad
  9. gwella teithio cynaliadwy i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau bod Tirweddau Dynodedig ar gael i bawb. Maen nhw’n galw am gynlluniau arloesol i leihau teithio mewn ceir, gydag arian yn cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus i alluogi ymwelwyr i fwynhau a phrofi Parciau Cenedlaethol heb gar
  10. dyletswyddau a phwerau newydd i bob corff perthnasol reoli gweithgareddau niweidiol a chynnal cadernid economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.

‘Cyfleoedd cyffrous’

Mae cyfle i’r Prif Weinidog nesaf greu “agenda wirioneddol ddeinamig a blaengar”, yn ôl Gareth Ludkin, yr Uwch Swyddog Polisi Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol.

“Mae’r tri pharc cenedlaethol yng Nghymru yn gorchuddio 20% o arwyneb tir y wlad ac yn gartref i dros 80,000 o bobol, ond eto mae’n aneglur ble mae’r ddau ymgeisydd y Prif Weinidog yn sefyll ar bwysigrwydd ein parciau cenedlaethol a thirweddau, a pha gamau y byddan nhw’n eu cymryd i roi dyfodol mwy disglair iddyn nhw,” meddai.

“Yn rhy aml, rydym yn clywed am blant a phobol ifanc sydd â mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad i’n tirweddau mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.

“Byddai darparu profiad dysgu awyr agored i bob plentyn yng Nghymru fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn helpu i sefydlu dealltwriaeth ddyfnach o fywyd gwledig yng Nghymru yn ogystal â chariad, parch a gwerthfawrogiad gydol oes o’r byd naturiol, a’r holl fanteision y mae’n yn ei gynnig i’n hiechyd a’n lles.

“Yn wyneb argyfwng hinsawdd, argyfwng natur ac anghydraddoldeb cynyddol, gall Tirweddau Dynodedig chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf Cymru, os yw’r Prif Weinidog nesaf a’u Llywodraeth yn eu croesawu’n briodol.

“Gyda Pharc Cenedlaethol arall yn cael ei ystyried yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae cyfleoedd cyffrous i’r ymgeisydd llwyddiannus nodi agenda wirioneddol ddeinamig a blaengar ar gyfer ein Parciau Cenedlaethol sy’n darparu ar gyfer cymunedau, amgylchedd ac iechyd Cymru.”