Mae ymchwilwyr yn ne Cymru wedi derbyn £4.3m i ymchwilio i salwch meddwl difrifol.
Ar y cyd ag ymchwilwyr yn ne-orllewin Lloegr, bydd yr Hwb Llwyfan Iechyd Meddwl newydd yn edrych ar ddiagnosis salwch meddwl difrifol a’r driniaeth ar ei gyfer.
Bydd yr Hwb yn dod ag ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg ynghyd wrth iddyn nhw gydweithio ag arbenigwyr o elusennau Adferiad a Bipolar UK i wneud y gwaith.
Byddan nhw hefyd yn holi cleifion sydd â phrofiad o salwch meddwl difrifol, fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
Mae tua 3% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn cael eu heffeithio gan salwch meddwl difrifol, ac ar gyfartaledd mae eu disgwyliad oes rhwng deng neu ugain mlynedd yn fyrrach na’r cyfartaledd.
Yn ôl yr ymchwil, mae o leiaf 25% yn wynebu symptomau nad ydyn nhw’n ymateb i driniaeth.
Nod Hwb De Cymru a De-orllewin Lloegr (SW²) ydy ceisio newid y sefyllfa, gan geisio deall beth sy’n achosi salwch meddwl difrifol.
‘Cyfleoedd heb eu hail’
Byddan nhw hefyd yn ceisio gwella’r systemau sy’n cael eu defnyddio i wneud diagnosis.
Ar hyn o bryd, mae’r systemau’n gyfan gwbl seiliedig ar ddisgrifiadau o symptomau ac ymddygiad.
Fe fydd y tîm yn datblygu dulliau mwy gwrthrychol a bioseicogymdeithasol o wneud diagnosis drwy ystyried geneteg, tasgau gwybyddol, delweddu’r ymennydd, dangosyddion yng ngwaed pobol, ac asesiad o’u datblygiad a’u cefndir cymdeithasol a diwylliannol.
“Bydd Hwb SW² yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ymchwilwyr ar draws de Cymru a de-orllewin Lloegr i gynnal ymchwil hanfodol i feysydd pwysig gwyddor iechyd meddwl,” meddai’r Athro James Walters, Cyfarwyddwr y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, a Phrif Ymchwilydd SW².
“Bydd cydweithio â Phrifysgol Abertawe a sefydliadau Cynghrair GW4, yn ogystal â thimau yn Bipolar UK ac Adferiad Recovery, yn caniatáu inni harneisio arbenigedd cyfunol ein rhanbarthau i wella ein dealltwriaeth o salwch meddwl difrifol.”
‘Gwella bywydau’
Dywed yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe eu bod nhw’n edrych ymlaen at weithio ar yr ymchwil.
“Bydd yn dod ag arbenigwyr ym mhob maes ynghyd ac yn rhoi’r gorau i ddatblygu syniadau ar wahân,” meddai.
“Bydd gan yr Hwb rôl allweddol wrth ddisgrifio llwybrau cymdeithasol a datblygiadol y mathau hyn o salwch meddwl difrifol.
“Gallai fod yn sail i ddulliau sydd wedi’u teilwra’n fwy penodol ac arwain at wella bywydau’r rhai sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad a deilliannau.”
‘Rhannu’r uchelgais’
Bydd cydweithio â sefydliadau sy’n cynrychioli cleifion, Adferiad a Bipolar UK, yn ogystal â charfan o gleifion â phrofiad bywyd o sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, ac anhwylder sgitsoaffeithiol, yn elfen ganolog o waith Hwb SW².
“Mae’n bleser gan Adferiad fod yn un o’r cyd-ymchwilwyr ymchwil ar gyfer Hwb SW²,” meddai Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad.
“Drwy ddefnyddio ymchwil o’r radd flaenaf, rydyn ni’n rhannu’r uchelgais y gallwn gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad cyflyrau fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
“Gydag ymgysylltiad a chymorth y miloedd lawer o bobol yr ydym yn eu cynorthwyo bob blwyddyn, byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod gan y rhai sy’n byw gyda’r cyflyrau, fel cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, aelodau o’r teulu a gofalwyr, rôl allweddol wrth gyd-gynhyrchu ymchwil berthnasol o’r radd flaenaf.”
‘Angen i ni wybod llawer mwy’
Mae’r arian wedi cael ei roi gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig a’r Cyngor Ymchwil Feddygol.
“Mae angen i ni wybod llawer mwy am yr hyn sy’n achosi salwch meddwl difrifol er mwyn i ni allu datblygu triniaethau newydd,” meddai’r Athro Patrick Chinnery, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol.
“Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cynnig gobaith ac anogaeth i bawb y mae’n effeithio arnyn nhw.
“Gan weithio gydag eraill, ein nod yw gwella iechyd y boblogaeth, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n effeithio ar bobl a chymunedau a hyrwyddo ymyriadau sy’n ein cadw’n iachach am gyfnod hirach.”