Mae dros 50 o brosiectau wedi derbyn cymorth gwerth £5.9m gan Lywodraeth Cymru, i’w fuddsoddi mewn offer fydd yn helpu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol newydd.

Mae grantiau wedi’u rhoi gan Gronfa Offer Cyfalaf SMART a’r Gronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes i gefnogi sefydliadau sy’n arloesi gyda’r nod o wella bywydau pobol, tyfu’r economi a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Cafodd busnesau o unrhyw faint, sefydliadau ymchwil, sefydliadau academaidd, gan gynnwys colegau addysg bellach, a sefydliadau’r trydydd sector eu gwahodd i wneud cais am yr arian.

Mae’r buddsoddiad wedi’i dargedu ar gyfer gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni’r cenadaethau sy’n cael eu nodi yn strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi, ac mae cymorth wedi’i gynnig i brosiectau ledled Cymru sy’n cwmpasu pob rhan o’r economi.

‘Balch’

Mae’r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys Coleg y Cymoedd yn Nantgarw, fydd yn defnyddio’r cyllid i sefydlu canolfan newydd ar gyfer arloesi digidol, cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth a chyfnewid gwybodaeth.

Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn cael cymorth fydd yn mynd tuag at brynu offer i ymchwilio a gwella’r amodau gweithgynhyrchu a storio sy’n effeithio ar ansawdd cydrannau gwaed, gan arwain at well gofal i gleifion sy’n derbyn trallwysiadau.

“Arloesi sydd â’r potensial i gyfoethogi ein haddysg, ein heconomi, ein hiechyd a’n lles, a’n hamgylchedd,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Fel y dywedais yn ddiweddar yn fy mlaenoriaethau ar gyfer economi gryfach, rwyf am gryfhau galluoedd arloesi a digidol Cymru gan gynnwys technolegau newydd sy’n esblygu’n gyflym.

“Rydym am greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, felly rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiectau hyn, a chredaf y byddant yn sbarduno newid trawsnewidiol.”

Cefnogi economi carbon sero-net gylchol

Cafodd grantiau eu dyfarnu o bortffolios Economi a Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i brosiectau sy’n cefnogi symudiad Cymru tuag at economi garbon sero-net gylchol hefyd.

Mae Fferm Wern Heulog ym Mhowys wedi cael cymorth tuag at fenter yn nalgylch dŵr Afon Gwy.

Ei nod yw datblygu ffermio dofednod mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio larfa’r gleren arfog ddu i fwydo ar y sbwriel mewn amgylchedd a reolir, ei dorri i lawr a’i leihau – o bosibl hyd at 70%.

“Mae hon yn enghraifft wych o’n strategaeth Economi Gylchol, Mwy Nag Ailgylchu a’n Strategaeth Arloesi, Cymru’n arloesi yn gweithio ochr yn ochr,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Mae symud tuag at economi gylchol yng Nghymru, lle rydym yn cynyddu’r defnydd o gynnwys wedi’i ailgylchu a’i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau, neu’n ymestyn oes cynhyrchion a deunyddiau, yn rhan allweddol o’r camau gweithredu sydd eu hangen ar newid hinsawdd.

“Rwy’n falch felly ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiectau hyn a’r cyfleoedd economaidd a ddaw yn eu sgil tra ar ein taith tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a Chymru ddiwastraff, garbon isel.”