Bydd criw o 10 o unigolion ifanc o’r Lan Orllewinol yn ymweld â Chymru yr wythnos hon, fel rhan o’u taith ar draws y Deyrnas Unedig.
Bydd y cynrychiolwyr ifainc hyn yn ymweld â Chaerdydd a Chasnewydd i rannu eu straeon o fyw mewn amgylchedd o densiwn parhaus, gan daflu goleuni ar y sefyllfa bresennol ym Mhalesteina.
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) wedi ymuno â’r Urdd i drefnu rhaglen i’r bobol ifanc sy’n ymweld.
“Nod yr ymweliad gyda’r 10 o bobol ifanc o Balestina yw codi proffil eu profiadau yn y Lan Orllewinol,” meddai Jane Harries, Cydlynydd Addysg Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
“Mae’n rhoi cyfle gwerthfawr i ieuenctid Cymru gysylltu â nhw a dysgu oddi wrthynt, sefydlu perthynas a rhannu’u hawydd am heddwch, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn i bobol Palesteina.”
Cyfnewid profiadau a chodi ymwybyddiaeth
Mae amserlen y daith yn cynnwys sesiynau ymgysylltu â Chyngor Ieuenctid Casnewydd a chyfarfod â Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Ar ôl aros yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, fe fyddan nhw’n symud yn eu blaenau i’r canolbarth.
Wedi’i hwyluso gan Gymdeithas Cyfeillgarwch Camden – Abu Dis (CADFA), bydd eu taith yn y Deyrnas Unedig yn eu cysylltu nhw ag unigolion ifainc tebyg iddyn nhw eu hunain sy’n rhannu angerdd am heddwch, hawliau dynol, a dealltwriaeth ryngwladol.
Mae amcanion yr ymweliad hefyd yn cynnwys:
- hwyluso cyfnewid profiadau rhwng Palestiniaid ifanc a’u cymheiriaid yn y Deyrnas Unedig
- ehangu allgymorth i godi ymwybyddiaeth am y sefyllfa hawliau dynol ym Mhalesteina
- grymuso’r cyfranogwyr ifainc i greu cynnwys cyfryngol gyda ffocws ar hawliau dynol
Fel rhan o’r broses o greu cynnwys cyfryngau, bydd prosiect fideo o’r enw ‘Beyond the Checkpoints‘ yn goleuo bywydau’r unigolion hyn yn y Lan Orllewinol, gan dynnu sylw at eu taith yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r Urdd wedi galluogi’r Palestiniaid ifanc i gwrdd â’r unigolion sy’n gyfrifol am grefftio Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni, gan ychwanegu “dimensiwn unigryw” i’r neges eleni, yn ôl Cymdeithas y Cymod.
Mae’r ymweliad hwn yn bosib o ganlyniad i gyllid gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru, gyda chymorth ychwanegol gan Academi Heddwch Cymru.