Roedd ymateb Jeremy Corbyn fore heddiw i ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn fêl ar fysedd Keir Starmer.

Dyna mae Gareth Hughes, sylwebydd gwleidyddol, wedi ei ddweud yn ymateb i ddiarddeliad cyn-arweinydd y Blaid Lafur.

Bu’r Comisiwn yn ymchwilio i honiadau o wrth-Semitiaeth oddi fewn i’r Blaid Lafur, ac yn ôl ei adroddiad, bu’r blaid yn “gyfrifol am aflonyddu a rhagfarnu anghyfreithlon”.

Ymatebodd y cyn-arweinydd, Jeremy Corbyn, trwy ddweud bod maint y broblem wedi’i “orliwio yn ddramatig”, ac yn sgil hynny cafodd ei ddiarddel gan yr arweinydd presennol, Keir Starmer.

“Pe buasa’ fo wedi ymddiheuro yn syth buasa’ fo ddim wedi cael ei ddiarddel o’r blaid,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Ond gan na wnaeth o, roedd hynny’n chwarae mewn i ddwylo Starmer a’n ei alluogi i ddweud yn bendant ei fod yn delio â’r broblem.

“Mae’n galluogi iddo danlinellu bod yna arweinydd newydd yn y blaid a bod pethau yn newid,” meddai wedyn.

“Roedd Corbyn yn dipyn bach o arweinydd marmite.

“Roedd rhai pobol wrth eu boddau efo fo, ond roedd rhan helaeth o’r Blaid Lafur – yn enwedig yn Nhŷ’r Cyffredin – yn ei gasáu o.

“Mae’n siwtio Starmer i fedru dweud: ‘Dyma ni. Dechrau newydd. R’yn ni wedi delio â’r broblem.”

Cyfnod o aflonyddwch

Mae’r sylwebydd a newyddiadurwr yn disgwyl i’r diarddeliad achosi rhai diwrnodau o aflonyddwch i’r blaid, a dyna i gyd.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n stori am wythnos ella,” meddai. “Ond yn y pen draw mae ’na arweinydd newydd. Mae ganddo fo [gefnogaeth].

“Ac yn naturiol, dw i’n meddwl bydd aelodau cyffredin y blaid isio symud ymlaen. Felly dw i’m yn gweld rhwyg mawr yn y blaid.

“Ond, wrth gwrs, mae’n siŵr bydd yna turbulence am ddiwrnod neu ddau.”

Yr ymateb yng Nghymru

Mae gwleidyddion Llafur Cymru wedi bod yn ddigon distaw yn sgil y cam, ond mae’r Ceidwadwyr wedi achub ar y cyfle i feirniadu.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, wedi croesawu’r adroddiad, ac wedi dweud nad oes lle i wrth-Semitiaeth yng Nghymru na Llafur Cymru. Fodd bynnag, nid yw wedi ymateb i’r diarddeliad eto, ac yn ôl Paul Davies mi ddylai rhoi sylw ar y mater.

“Mark Drakeford oedd yr Aelod o’r Senedd cyntaf i gefnogi Jeremy Corbyn yn ei ymgais i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur,” meddai arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd.

“Mae’n rhaid iddo gadarnhau a yw’n cefnogi Syr Keir Starmer a’i ddiarddeliad o Corbyn, ynteu a yw’n cefnogi ei arwr gwleidyddol.

“Mae’r gymuned Iddewig yng Nghymru, ochr yn ochr â phob un sydd wedi brwydro yn erbyn gwrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur, yn haeddu cael gwybod a yw ar eu hochr ai peidio.”

Mae’r ymateb wedi bod yn ffyrnig ar lefel Brydeinig, fodd bynnag.