Mae perchnogion tafarndai Cymru yn ddigon abl i gadw rheolaeth ar eu cwsmeriaid sychedig, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Daeth sylwadau Eluned Morgan brynhawn heddiw (dydd Iau 2 Gorffennaf) wrth iddi gyhoeddi y byddai rheolau covid-19 yn cael ei llacio i’r diwydiant croeso.
O Orffennaf 13 ymlaen – gan gymryd na fydd yr argyfwng yn gwaethygu – mi fydd tafarndai, caffis a bwytai yn medru darparu gwasanaethau (ond y tu allan yn unig).
Yng nghynhadledd wasg brynhawn heddiw, holwyd y Gweinidog a oedd sicrwydd bod tafarndai yn medru ailagor yn ddiogel o ystyried effaith alcohol ar bobol. Rhannodd hithau ei theimlad o hyder.
“Yn ystod ein sgyrsiau â’r sector maen nhw wedi dweud yn glir – o ran rheoli’r sefyllfa os eith pethau dros ben llestri – mai dyma yw eu bara menyn,” meddai.
“Dyna maen nhw’n ei wneud ddydd ar ôl dydd. Felly mae’n rhaid i ni edrych ar y balans rhwng rheoli yfed mewn amgylchedd sydd dan reolaeth, ac osgoi golygfeydd fel y gwelsom yn Aberogwr.
“Mae gan bobol sydd â phrofiad o redeg tafarndai well syniad o sut i reoli pobol yn y sefyllfa yna ag alcohol.”
Agor tu fewn os bydd agor tu fas yn llwyddiant
Caiff agor tu fewn tafarndai, bwytai, bariau a chaffis ei ystyried yng Nghymru os yw’r ailagor awyr agored yn llwyddiant
Dywedodd Eluned Morgan: “Os ydyn ni’n agor yn rhy gyflym, fel rydyn ni wedi’i weld mewn rhai rhannau o’r byd, mae’n rhaid i ni fynd yn ôl a chloi [eto] ac nid dyna lle rydyn ni eisiau bod.
“Dyna pam ein bod ni’n gwneud hyn gam wrth gam, dan reolaeth, gan weithio gyda’r sector lle gallwn… [a chan] ddeall pwysigrwydd y sector i economi Cymru.
“Byddwn yn cymryd pob cam y gallwn i wneud yn siŵr bod y cam cyntaf hwn o agor yn llwyddiant, ac yna, os yw hynny’n llwyddiannus, gallwn symud ymlaen i ailagor ymhellach.”
Y rheol dau fedr
O ran y rheol dau fetr o bellter cymdeithasol a fydd, yn ôl rhai, yn cyfyngu ar y gallu i fasnachu, dywedodd Eluned Morgan mae’r “tebygrwydd yw” na fyddai’n cael ei newid.
“Mae’r dystiolaeth wyddonol rydyn ni wedi’i gweld hyd yn hyn yn ei gwneud hi’n gwbl glir bod dau fetr yn ddiogelach nag un metr, ac felly am y tro bydd y rheol dau fetr yn aros yn ei lle,” meddai.
Ond ychwanegodd fod y Llywodraeth yn gweithio ar fesurau amddiffynnol ychwanegol i gefnogi ac amddiffyn staff a chwsmeriaid, gan gyfeirio at yr angen i staff allu gwasanaethu wrth fyrddau.
Cynlluniau llacio
Dywedodd Eluned Morgan y byddai’r canlynol yn digwydd:
06/07 – agor atyniad awyr agored i ymwelwyr os codir y rheol aros yn lleol
11/07 – agor llety hunanddarpar*
13/07 – agor tafarndai, bariau, caffis a bwytai, yn yr awyr agored*
(*yn amodol ar yr adolygiad nesaf o’r cyfyngiadau ar 09/07)
Parti Aberogwr
Yr wythnos diwethaf wnaeth torf fawr o bobol ymgynnull mewn maes parcio ger traeth Aberogwr, ym Mro Morgannwg.
Roedd partio ac ymladd ynghlwm â hyn, a chafodd dau ddyn eu harestio.
Yn ymateb i’r digwyddiad mi rybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai rheolau ddim yn cael eu llacio ymhellach os na fydd pobol yn bihafio.