Mae cynlluniau i lacio cyfyngiadau cwarantin i deithwyr wedi arwain at ffrae rhwng llywodraethau Boris Johnson a Nicola Sturgeon.

Awgrymodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Grant Shapps, mai Llywodraeth yr Alban oedd yn gyfrifol am yr oedi o ran y cyhoeddiad am bontydd awyr rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd sy’n cael eu heithrio o’r cyfnod hunanynysu 14 diwrnod.

“Siomedig ond, yn anffodus, ddim yn syndod”

Ond yn ôl gweinyddiaeth Holyrood does “dim sail” i’r honiad ac mae wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o beidio rhoi diweddariad i Weinidogion yr Alban ar y cynlluniau.

Dywed Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, fod Grant Shapps wedi camddeall y sefyllfa “sy’n siomedig ond, yn anffodus, ddim yn syndod”.

Ar hyn o bryd mae pobol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prydeinwyr, yn gorfod hunanynysu am bythefnos er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws.

Rhestr o wledydd i gael eu heithrio

Mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi rhestr o wledydd fydd yn cael eu heithrio o’r cyfyngiadau yr wythnos hon, ond hyd yma nid oes manylion wedi cael eu cyhoeddi.

Gyda’r cynlluniau i fod i gael eu cyhoeddi ddydd Gwener (Gorffennaf 3), bu i Grant Shapps ddadlau gydag aelodau o’r SNP yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Byddwn yn gwerthfawrogi ei help er mwyn sicrhau bod pontydd awyr yn weithredol gyn gynted â phosib,” meddai wrth lefarydd trafnidiaeth yr SNP, Gavin Newlands.

Tarodd Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Humza Yousaf, yn ôl, drwy ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas wedi ailwampio’r rhestr o wledydd o dan ystyriaeth, a hynny heb drafod gyda’r llywodraethau datganoledig.

Mewn trafodaethau gydag Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, ddydd Mercher (Gorffennaf 1), cafodd y rhestr ddiweddaraf o wledydd ei chyflwyno i’r llywodraethau datganoledig – roedd wedi “newid yn sylweddol” o fersiynau blaenorol.

“Ni chafodd gwybodaeth bellach, gan gynnwys rhagor o newidiadau i’r rhestr o wledydd, ei ddarparu nes oedd y cyfarfod wedi gorffen,” ychwanegodd Humza Yousaf.

Hyd at 75 o wledydd

Gall hyd at 75 o wledydd gael eu heithrio o’r cyfyngiadau cwarantin pan fydd y rhestr yn cael ei chyhoeddi, yn ôl adroddiadau.

Bydd y rhestr yn codi gwaharddiad y Swyddfa Dramor ar deithio sydd ddim yn angenrheidiol o bron i bob un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, tiriogaethau Prydeinig megis Bermuda a Gibraltar, yn ogystal â Thwrci, Gwlad Tai, Awstralia a Seland Newydd, yn ôl y Daily Telegraph.

Ond mae Stryd Downing wedi ceisio distewi adroddiadau cyn y cyhoeddiad swyddogol.