Dyma flas ar golofn olygyddol cylchgrawn Golwg yr wythnos hon… a chyfle ar y gwaelod i fwynhau eitem ‘Hoff Lyfrau Geraint H Jenkins’, am ddim, wrth i ni godi’r wal dalu…
Gair o gerydd a gair o glod, a brawddeg gynta sy’n odli, gan ei bod hi’n Steddfod…
Yn gyntaf, y gwachul. A gormod o bwdin dagith gi.
Gwylio S4C b’nawn Sul, Dafydd Iwan yn cael ei holi cyn ei gig fawr flasus ar Lwyfan y Maes y noson honno.
Lot o sôn am ‘Yma O Hyd’ yn cael ail wynt diolch i’r pêl-droed ac yn y blaen, ac yn y blaen, ac yn y blaen…
Digon teg, mae Dafydd yn eicon sy’n syrffio’r zeitgeist ar hyn o bryd, ac yn hwyrach yn y noson fe ddangosodd S4C Y Dyn Ei Hun yn canu cwpwl o’i ganeuon, ond ddim ‘Yma O Hyd’ chwaith…
Ond be gafwyd ar y nos Lun, yn anffodus, oedd fwy neu lai’r union yr un sgwrs gyda Dafydd Iwan ar soffa rhaglen Heno yn y Steddfod… pêl-droed, Cymru yng Nghwpan y Byd, ‘Yma o Hyd’ yn anthem, ac yn y blaen, ac yn y blaen, ac yn y blaen (fel y canodd Dave Datblygu mor gofiadwy ar y gân ‘Y’ sydd ar yr albwm seminal Libertino).
Doedd dim o hyn yn fai ar Dafydd Iwan, wrth reswm… ond rhaid bod gan S4C – sydd â chyllideb o dros £100 miliwn – geiniog i’w sbario i gyflogi Swyddog Atal Ailadrodd Stwff Ailadroddus Rhag Ymddangos Ddwy Noson Ar Y Trot Ar Y Teli?
Yn wythnos y Brifwyl, lle mae’r Maes yn gorlifo gyda thalentau difyr a disglair, does dim esgus dros fynd at yr un bobol i’w holi am yr un pethau.
Ond rhag blagardio gormod ar ein hunig Sianel Gymraeg, gair o glod am raglen Y Babell Lên 2022 ar nos Lun cynta’r Steddfod.
Fe roddwyd sylw teilwng i eitem ‘Cofio Tedi Millward’, gyda sawl atgof a hanes difyr am yr ysgolhaig ddysgodd Gymraeg i Brins Charles.
Difyr iawn oedd dadl Hywel Teifi, a gafodd ei gwyntyllu yn ei absenoldeb gan ei fab Huw Edwards, y byddai gwrthod dysgu Cymraeg i Charles yn 1969 wedi bod yn waeth na’r hyn ddigwyddodd, gan y byddai wedi anfon y neges nad oedd y Cymry yn croesawu dysgwyr.
Difyr hefyd oedd cyfraniad Mark Lewis Jones, y dyn fu’n actio Tedi Millward yn y bennod honno o The Crown ar Netflix fu yn adrodd hanes yr Arwisgiad ac yn portreadu gwersi Cymraeg Carlo ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Netflix yn gwario £10 miliwn ar bob pennod o’r gyfres, a Mark yn ein hatgoffa mai ‘Tywysog Cymru’ oedd teitl uniaith Gymraeg pennod yr Arwisgo – tipyn o beth o gofio bod The Crown yn cael ei wylio gan filiynau o bobl ledled y byd.
(Digwydd bod, mae’r bennod ‘Tywysog Cymru’ hefyd yn cloi gyda llais Dafydd Iwan yn canu ‘Carlo’ dros yr end credits. Mae’r boi yn bob man!)
Perlan arall ar Y Babell Lên 2022 oedd Geraint H Jenkins yn cyflwyno ‘Hiwmor Tri Chardi Llengar: Moc Rodgers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi’.
Sôn am academydd o’r rheng flaen sy’n medru diddanu a goleuo yn hollol naturiol.
Digwydd bod, mae o’n trafod ei hoff lyfrau ar dudalen 16 Golwg wythnos yma.
Ac ydy, mae yn rhoi hwb bach ysgafn i’w gampwaith, Y Digymar Iolo Morganwg.
Dyna i chi gyfrol werth chweil am y boi roddodd wynt o’r newydd yn hwyliau’r Steddfod – a’r Cymry – ac sy’n dad ysbrydol i’r miri ar y Maes yn Nhregaron.
Ac os ydach chi yno – neu gartref ar y soffa yn gwylio – codwch wydryn i’r hen Iolo.