Mae Cymru ar daith at annibyniaeth; ac rydyn ni am hwyluso’r ffordd i ddyfodol annibynnol blaengar.

Fel mudiadau a phleidiau unigol, mae gennym amryw o safbwyntiau ar fanylion gwaith eich Comisiwn.

Ysgrifennwn ar y cyd er mwyn tanlinellu un egwyddor benodol sydd gennym yn gyffredin: hawl sylfaenol pobl Cymru i benderfynu eu statws cyfansoddiadol eu hunain.