Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
Fel rhan o’m paratoadau ar gyfer dwy ddarlith eisteddfodol rwy’n darllen ar hyn o bryd gyfrol gan Tegwyn Jones, y dewin geiriau amryddawn o Bow Street, sef Ar Dafod Gwerin: Penillion Bob Dydd. Fel popeth a ddaw trwy law Tegwyn, mae’n ddifyr tu hwnt. Mae’n cynnwys enghreifftiau o benillion a rhigymau a gyfansoddwyd gan werinwyr ledled Cymru. Deil Tegwyn fod y cerddi dwli yn eu plith yn drysorau sy’n werth eu cadw. Er mwyn rhoi blas i chi o’r cynnwys, dyma rigwm priddaidd o ardal Ffair-rhos, nid nepell o faes yr Eisteddfod:
Twm y rwm y ryman
Werthodd ei fam am bwtyn o gryman
Prynodd hi’n ôl am bedol a ho’l;
Gwerthodd hi wedyn am geillie gwybedyn.
Does dim rhyfedd fod ardal Ffair-rhos wedi magu cynifer o brifeirdd!
Y llyfr a newidiodd fy mywyd
Ni allaf ddweud bod unrhyw lyfr, yn Gymraeg neu Saesneg, wedi newid fy mywyd fel y cyfryw, ond ni fynnwn fod heb fy nghopi o Cerddi’r Gaeaf gan R Williams Parry chwaith.
Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna i
Pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth, roedd pob gwers hanes yn Saesneg ac oni bai fod gennyf athro Cymraeg penigamp ym mherson W Beynon Davies ni fyddwn wedi rhoi fawr o bris ar y Gymraeg. Saesneg oedd yn teyrnasu yn Adran Hanes Coleg Prifysgol Abertawe hefyd, ac eithrio un cwrs gan John Davies, Bwlch-llan. Ond awgrymodd Ieuan Gwynedd Jones, yr anwylaf o haneswyr Cymru, fy mod yn darllen Hanes Annibynwyr Cymru gan R Tudur Jones. Wrth ei ddarllen, teimlwn fod byd newydd yn agor o’m blaen a bod modd ysgrifennu hanes Cymru mewn Cymraeg gloyw a chyfoethog. Ac er na allwn werthfawrogi ei ddehongliad ef o’n gorffennol a’i gred mai Duw sy’n creu profiad, dotiais ar bob un o’i lyfrau niferus wedi hynny.
Y llyfr sy’n hel llwch
Prynodd Ann, fy ngwraig, gopi o argraffiad cyntaf Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain gan Iolo Morganwg i mi dro yn ôl. Roeddwn eisoes wedi pori ynddo lawer gwaith yn y Llyfrgell Genedlaethol ond heb ei ddarllen o glawr i glawr. Hwn, felly, oedd fy nghyfle i wneud iawn am hynny. Ceir ynddi 240 o dudalennau a rhaid i mi gyfaddef i mi fradychu fy arwr trwy roi’r ffidil yn y to cyn hyd yn oed gyrraedd ei hanner. Cefais rywfaint o gysur o ddarllen sylw a wnaed gan ei fab Taliesin ab Iolo, golygydd y gwaith: ‘Mae syniadau fy nhad yn anghysylltiedig, fel y sylwais o’r blaen. Braidd iawn y gellais ddarllen rhai ohonynt.’ Plus ça change . . .
Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud
Rwy’n cofio fy hen gyfaill, yr hanesydd Geoffrey F Nuttall, yn brolio ei fod yn darllen Y Bywgraffiadur Cymreig o glawr i glawr ar ei wyliau haf ym Mae Colwyn bob blwyddyn. Pwysodd arnaf i wneud yr un fath a chytunais i gario’r jygarnot bywgraffiadol hwn i ganol twyni tywod Ynys-las yr haf canlynol. Och a gwae, ni wneuthum hynny ac erbyn hyn mae’r cyfan i’w gael ar-lein, diolch byth.
Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor
Os wyf mewn cyfyng gyngor ynghylch ystyr neu sillafiad neu gefndir unrhyw air neu briod ddull Cymraeg byddaf bob amser yn troi at Geiriadur Prifysgol Cymru, un o brosiectau hirdymor mwyaf llwyddiannus Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru o barchus goffadwriaeth. Pan oeddwn yn gadeirydd y Bwrdd cefais y pleser o gyfarwyddo’r tîm a weithiai ar y prosiect am bymtheg mlynedd, gan ryfeddu at wybodaeth ac ymroddiad y ddau olygydd, Gareth Bevan a Pat Donovan a’u staff.
Y llyfr sydd wastad yn codi gwên
Dim ond un sydd yn y ras hon, sef Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn, ffantasi o nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith iddo ym 1992. Ni ddarllenais ddim byd tebyg iddi erioed ac wrth ei darllen yn fy ngwely y pryd hwnnw roedd ei hiwmor mor ffres a gafaelgar fel bod fy nghorff cyfan yn ysgwyd wrth chwerthin.
Llyfr i’w roi yn anrheg
Gan fy mod wedi cael y fath flas ar ddarllen Ymbapuroli, cyfrol gan Angharad Price sy’n cynnwys 12 ysgrif wefreiddiol ar amrywiol bynciau, pleser digymysg fyddai cael rhoi copi ohoni yn anrheg i bawb sydd heb glywed amdani.
Fy mhleser (darllen) euog
Ar funud wan neu pan fyddaf yn gorfod teithio ar hyd rheilffyrdd alaethus Cymru, byddaf yn darllen un neu fwy o nofelau’r Americanwr Harlan Coben. Gan fod ei waith, chwedl The Times, yn ‘high adrenaline entertainment’, ni theimlaf ddim euogrwydd o gwbl.
Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano
Mae pob un o’r deugain a mwy o lyfrau a ysgrifennais, yn Gymraeg a Saesneg ac ar gyfer oedolion a phlant, yn agos iawn, iawn at fy nghalon. Ond gan fod Golwg yn pwyso mor daer â minnau’n awyddus i ddweud y gwir yn erbyn y byd, fe ddewisaf Y Digymar Iolo Morganwg. Ni chafodd Iolo chwarae teg gan ei gyd-Gymry dros y blynyddoedd.
GERAINT H JENKINS
Un o haneswyr Cymru yw Geraint H Jenkins. Mae’n Gardi o’r groth ac, er ei fod yn frodor o Benparcau, mae wedi ymgartrefu ym Mlaen-plwyf ym mhlwyf Llanychaearn ers blynyddoedd lawer. Bu’n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth cyn ei benodi yn gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993. Ymddeolodd ym mis Medi 2008 ac fe’i gwnaed yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru. Mi roddodd ddwy ddarlith yn Y Babell Lên yn yr Eisteddfod yr wythnos yma – y naill ar ‘Hiwmor Tri Chardi Llengar’ (Moc Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi) a’r llall ar fywyd a gwaith y cerddor a’r hanesydd Meredydd Evans, ‘Merêd, y Dyn Llawen’.