Mae un o gynghorwyr ieuengaf Gwynedd wedi ymprydio dros ddatganoli darlledu, siarad ar Russia Today [rhwydwaith newyddion], ac annerch miloedd o bobol mewn rali annibyniaeth.

Ers cael ei ethol dros ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog, mae Elfed Wyn ap Elwyn wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Pwyllgor Iaith y Cyngor.

Y Gymraeg, a sicrhau ei pharhad, yw un o resymau’r mab fferm o Gwm Prysor dros ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.