Mae un o fandiau gorau Cymru wrth eu boddau yn cael chwarae yn y Steddfod, eu gig gyntaf o flaen cynulleidfa fyw ers tair blynedd…

Ers 15 mlynedd bu The Joy Formidable yn teithio’r byd yn gigio gyda’r Foo Fighters, y Manic Street Preachers a Paul McCartney.

Ac o’r diwedd, mae’r band roc o’r Wyddgrug wedi gallu ffitio gig yn y Steddfod Genedlaethol fewn i’w hamserlen brysur.