O dro i dro, byddwn yn codi’r wal dalu i chi gael mwynhau arlwy golwg+…
Bardd, bugail, chwaraewr bodhran, canwr, codwr waliau sych a dyn gwneud seidr.
Daeth i Gymru o Rydychen ac mae ganddo agwedd hyfryd o iach at ein hiaith a’r diwylliant.
Yn 30 oed, mae yn byw ym Machynlleth a newydd gyhoeddi pamffled o farddoniaeth o’r enw Caniadau’r Ffermwr Gwyllt…
Pryd wnaethoch chi gychwyn creu cerddi Cymraeg?
Ryw ddwy flynedd yn ôl… rydw i wedi barddoni ers pan oeddwn i yn 15 oed, ac roedd o’n ffrind cyson i fi trwy’r blynyddoedd. Yn helpu fi i wneud synnwyr o’r pethau oedd yn digwydd yn fy mywyd i a’r byd tu hwnt.
Ond wedyn roedd yna fwlch, roedd prif iaith fy mywyd wedi newid ac roeddwn i yn byw fy mywyd trwy’r Gymraeg.
Gweithio, cymdeithasu, meddwi… wedi dechrau caru yn y Gymraeg.
Ond doedd gen i ddim digon o fedr i fynd ati i farddoni… ond erbyn hynny, doedd o ddim yn teimlo yn berthnasol i sgrifennu am bethau yn y Saesneg.
Hefyd, dw i’n credu bod y cyd-destun barddonol yn y Saesneg yn wahanol iawn.
Mae o’n… nid “elitaidd” ydy’r gair iawn, ond mae o mor niche.
Ac erbyn hyn, yn y Saesneg, beirdd eraill ydy’r rhan fwyaf o bobl sydd yn darllen neu wrando ar gerddi.
Does dim cynulleidfa gyffredin i farddoniaeth Saesneg, fel sydd gen ti gyda cherddoriaeth a phethau. Tydi hynna ddim yn bodoli yn y Saesneg.
A dyna rywbeth wnaeth daro fi am farddoniaeth yn y Gymraeg… bod o dal yn rhywbeth lle mae yna gynulleidfa gyffredin. Ti’n gallu siarad efo cymunedau, cynnal trafodaeth efo cymuned sydd ddim jest yn gymuned lenyddol.
Ac roedd hwnna yn cyffroi fi yn ofnadwy.
Mae yn anodd cael trafodaeth am bethau gwleidyddol, pethau amgylcheddol a phethau moesol, os ti ond yn siarad gyda chylch bach o bobol.
Ac mae’r ffaith fod barddoniaeth i’w weld yn chwarae rhan bwysig yn y diwylliant Cymreig, rhywbeth oedd wedi ei golli yn Lloegr ers erstalwm, hwyrach… roedd hwnna yn bwysig iawn i mi.
Ac mae’r elfen lafar yn bwysig iawn i fi, a pherfformio ac yngan y cerddi o flaen pobol. Mae yn rhywbeth dw i yn mwynhau yn ofnadwy. Dyna le mae’r gerdd yn dod yn fyw – yn y perfformiad, yn y rhannu.
Pam wnaethoch chi symud i Fachynlleth?
Hap a damwain hapus. Roeddwn i yn y coleg yng Nghaerdydd, a symudes i allan i Sir Benfro wedyn, ac roeddwn i yn bugeilio lawr fan’na.
Ond roedd rhywbeth am y dirwedd. Roeddwn i yn hiraethu am y mynyddoedd. Nid bod fi erioed wedi byw yn y mynyddoedd.
Wedyn wnes i drio fy lwc yn y gogledd neu’r canolbarth neu le bynnag.
Ac roeddwn i ar fy ffordd mwy i’r gogledd, a ges i fy nal ym Machynlleth rywsut.
Roedd hynny ryw bedair blynedd a hanner yn ôl, ac wedi cael y ffasiwn groeso.
Yn ara’ bach yn dod yn Gog Bro Ddyfi erbyn hyn, fyswn i’n meddwl.
Gawsoch chi eich magu ar aelwyd amaethyddol?
Na, dim o gwbl. Roedd o’n sioc uffernol i fy rhieni pan ddywedes i fy mod i am fod yn fugail.
Roedd lot o fy mhenderfyniadau i yn anodd iddyn nhw eu deall am sbel, ond chwarae teg, maen nhw wedi dod rownd ac yn llwyr gefnogol erbyn hyn.
Mae Dad yn Brif Weithredwr elusen addysg arbennig, a Mam wedi ymddeol erbyn hyn, ond roedd hi’n gwneud gwahanol waith swyddfa cyn, ac ar ôl, magu ni.
Does dim hanes o gerddoriaeth yn y teulu agos… ond wedi dweud hynna, dw i yn cofio pan es i Gaerdydd i astudio Athroniaeth, fy Nhaid yn dweud ar y pryd: ‘Mae gen i gefnder sydd rhywbeth i’w wneud efo Athroniaeth yng Nghaerdydd’.
Yn troi allan, roedd cefnder fy Nhaid yn Bennaeth Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd am ryw ugain mlynedd, a doeddwn i erioed wedi cwrdd ag o na chlywed sôn amdano.
Ond daethon ni yn ffrindiau mawr pan oeddwn i yn byw yng Nghaerdydd, ac roedd o hefyd yn gerddor, yn canu a chwarae piano ag organ. Fo oedd y genhedlaeth gyntaf i adael y tir – cyn hynny roedden nhw i gyd yn ffermwyr tenant.
Felly pan es i allan i orllewin Cymru, roedd o’n deall yn iawn beth oeddwn i yn ei wneud.
Hwyrach fod yna bethau oedd wedi sgipio cenhedlaeth.
Beth yw eich hoff gân i’w chanu gyda Chôr Meibion Machynlleth?
Mae ‘Gwinllan [a Roddwyd i’m Gofal]’ yn uffern o gân.
Does gen i fawr o lais arbennig, ond dyna sy’n wych am y côr. Os wyt ti’n barod i weithio a rhoi’r ymdrech fewn, mae croeso i bob safon.
Ac roedd ymuno efo’r côr yn ffordd dda o ddod i adnabod y bobol yn yr ardal, y gymuned, a siawns dda i gymdeithasu efo pobol newydd.
Faint o ddefaid fyddwch chi’n hel ar y tro?
Mewn un helfa, bysa chdi ddim yn debygol o orfod hel mwy na chant i ddau gant o ddefaid ar y tro.
Ast Gymreig goch sydd gen i [yn gi defaid], ac mae hi ar ei gorau gyda gangiau mawr ar y mynydd agored.
Tydi Mabli Hedd ddim yn gorwedd, mae hi ar ei thraed, yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o hyd. Mae’r cŵn coch yne angen mynydd enfawr.
Ers pryd ydach chi’n cadw’r bît gyda’r bodhran?
Tua phum mlynedd. Roeddwn i yn chwarae cit drymiau cyn hynny, ac mewn band nôl yn Rhydychen am ryw ddeg mlynedd. Roeddwn i yn 11 oed yn dechrau, a rhyw 21 yn gorffen efo nhw ar ôl penderfynu symud allan i orllewin Cymru.
Doedd y bywyd rock star ddim i fi, mae’n debyg. Wild Swim oedd enw’r band ar y pryd, ond erbyn hyn maen nhw yn galw eu hunain yn Low Island ac maen nhw yn gwneud yn dda, chwarae teg. Maen nhw dal wrthi yn mynd ar ôl gyrfa broffesiynol.
Gyda phwy fyddwch chi’n chwarae’r bodhran?
Efo Osian Morris [y canwr gwerin] o Ddolgellau. Efo Cerys Hafana, y delynores.
A dw i yn gwneud dipyn efo Ceri Rhys Matthews oedd yn y band Fernhill. Mae fi a Ceri efo band twmpath [dawns] o’r enw Trafferth Mewn Tafarn… Felly mae yna ddigon ymlaen!
Pam wnaethoch chi fynd ati i ddysgu siarad Cymraeg?
Yn ystod fy amser yn astudio yng Nghaerdydd, ges i deimlad o berthyn – y math o deimlad doeddwn i ddim wedi ei deimlo wrth dyfu fyny yn Lloegr. Doedd ganddon ni ddim llawer o wreiddiau yn yr ardal lle cefais fy magu. A dw i’n meddwl fy mod i wastad wedi hiraethu am ryw gynefin fel yna.
Ac wrth gerdded a mynydda lot a threulio amser yng Nghaerdydd, a gwylio’r rygbi yn benodol a phrofi’r mynegiant o Gymreictod – cenedlaetholdeb gwahanol iawn i genedlaetholdeb Prydeinig yr oeddwn i wedi arfer ag o yn Lloegr, ac nad oeddwn i yn hoff iawn ohono fo.
Roedd profi math o genedlaetholdeb gwahanol, positif, agored, cynnes… roeddwn i wedi dod i deimlo: ‘Yng Nghymru rydw i eisiau byw. A dw i eisiau dysgu sut i fod yn rhan o’r lle yma, yn rhan o’r gymuned. Dw i’n teimlo fy mod i’n perthyn yma, a hoffwn i allu dweud rhyw ddydd bo fi yn Gymro o fath’.
Ac roedd o’n amlwg i fi, wrth symud allan i’r gorllewin, os oeddwn i am wneud hynny, bysa rhaid dysgu’r iaith. Cwrteisi sylfaenol, pan ti’n symud i rywle lle maen nhw yn siarad iaith wahanol, yw dy fod ti’n dysgu’r iaith.
Beth yw eich ofn mwya’?
Siarcod… pan oeddwn i yn blentyn, roeddwn i ofn y bath.
Ond dw i wedi gwella’n ofnadwy. Ond mewn dŵr agored, dw i ddim yn gyfforddus.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dw i’n lwcus uffernol, mae’r gwaith yn cadw fi mewn siâp reit dda.
Fel arall, dw i wedi bod wrthi yn chwarae gyda chlwb rygbi Machynlleth, ar yr asgell – ond heb fod wrthi ers sbreinio’r ffêr. Hefyd, dw i’n hoff iawn o feicio. Mae fi a’r cariad yn beicio dipyn.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pethe amlwg – greenwash-io; ail gartrefi; teuluoedd Saesneg yn peidio rhoi addysg Gymraeg i’w plant nhw pan maen nhw wedi symud i Gymru; defaid yn stwffio drwy ffensys i gaeau lle dylen nhw ddim bod…
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Iolo Morgannwg, Abraham Wood – telynor a storïwr mawr – a Gareth Edwards.
O ran y bwyd, coes o gig oen a thatws, neu ryw joint o gig eidion a’r holl drimings.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Fy nghariad, Grug [Muse, y bardd]. Wnaethon ni gyfarfod ar [wefan canfod cariad] Tinder, sy’n rhyfeddol mewn ffordd. Mae yn rhaid i ni fod yn ddiolchgar iawn i’r cyfnod clo, achos fel arall fysen ni ein dau ddim wedi bod ar Tinder. Doeddwn i erioed wedi bod arno fo o’r blaen, a doedd hi ddim chwaith.
Roedden ni’n lwcus ofnadwy. Roedd Grug lawr yn aros mewn rhyw gaban yn Abercegyr, jest tu allan i Fachynlleth. Felly aethon ni am dro i fyny Fron Goch yn ardal Tal-y-Wern, a dyna oedd ein dêt cyntaf ni.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Dafad y ddiawl!
Parti gorau i chi fod ynddo?
Noson ore’r flwyddyn – o bell ffordd – yw’r Mari Lwyd yn Ninas Mawddwy. Dyna oedd y tor-calon mwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oedd ein bod ni yn methu dod ynghyd. Mae yna lwyth o sheshis fel yna trwy’r Haf, ond beth sy’n ei wneud o mor arbennig yw bod [y Fari Lwyd] reit ynghanol Gaeaf, ac mae rhywbeth go arbennig i ddod ynghyd ar yr adeg yna o’r flwyddyn i ganu trwy’r nos.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Dw i wedi bod yn dysgu’r gynghanedd dros y flwyddyn ddiwethaf yma ac, weithiau, os mae rhywun yn gweithio ar gynghanedd, mae’r cynganeddion yn gallu cadw rhywun yn effro gyda’r nos. Neu yn gallu ymosod ar dy freuddwydion. Ond, fel arall, dw i yn cysgu fel y boi.
Hoff wisg ffansi?
Dw i yn ofnadwy o ddiflas ac yn casáu gwisg ffansi.
Hoff ddiod feddwol?
Seidr… dw i yn gwneud seidr fy hun a dyna un o’r sidelines, busnes bach. Rydan ni yn dechrau gwerthu’r seidr eleni. Dw i wedi dysgu, gan foi reit wych lawr yn Sir Fynwy, sut i wneud seidr go-iawn.
Seidr y Gêth Lês ydy’r enw, gan gadw tafodiaith Sir Drefaldwyn.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Yn ddiweddar, dw i wrthi yn darllen nofel Llŷr Titus, Pridd, am hen ffarmwr ym Mhen Llŷn.
Ac mae honno yn gampwaith o lên gwlad a’r sgrifennu yn hynod o brydferth a chrefftus. Hefyd mae’r portread mae Llŷr yn tynnu yn fanwl iawn ac yn llwyddo i ddelio efo rhestr eang o faterion gwledig cyfoes. Ac mae yna nofel fer iawn o’r enw Hill, wedi ei chyfieithu o’r Ffrangeg, am gymuned amaethyddol yn Ffrainc. Cafodd ei sgrifennu nôl yn y 1920au, ac maen nhw yn cael sychder mawr a thân gwyllt mawr, llwyth o bethau dychrynllyd yn digwydd yn yr ardal. Ac maen nhw yn dod i’r casgliad mai’r tir ei hun sydd wedi troi arnyn nhw, achos eu bod nhw wedi cymryd mantais ar y lle ac yn cymryd gormod, ac yn gweithio’r tir yn gas. Nofel hynod o fywiog wedi ei sgrifennu mewn ffordd mor hynod. Nofel fer wnaeth argraff fawr.
Hoff air?
Diawledig.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Fues i yn hopio freight trains yn America pan oeddwn i yn 23. Hwnna oedd antur fwyaf fy mywyd. Roedden ni wedi dechrau yn Asheville yn North Carolina, a bennu fyny yn San Francisco yn Califfornia. Wnaethon ni groesi’r cyfandir cyfan. Roeddwn i wedi cymryd bod hopio freight trains wedi marw allan yn y 1960au neu rywbeth ond, na, wnes i gwrdd â chriw o bobol ifanc oedd dal i deithio fel yna.
Roedd o’n eithaf peryglus ac yn gwbwl anghyfreithlon a byswn i wedi cael fy deportio os bysan nhw wedi fy nal i. Roedd yn gymaint o antur, ac wedyn wnes i feddwl: ‘Reit, dw i wedi cael llond bol o’r cyffro yma. Dw i’n barod i setlo lawr a dysgu ffermio!