Mae ardal Tregaron heddiw ychydig fel yr oedd campws Prifysgol Llanbed ychydig wythnosau’n ôl – heblaw fod un yn croesawu Cymry a’r llall wedi croesawu’r Tywysog Charles.

Yn Llanbed, mi fuodd yna sbriwsio mawr a phaentio a tharmacio ar gyfer munudau o ymweliad; mae pob Eisteddfod yn arwain at gymennu diwylliannol ar gyfer rhyw wyth niwrnod a chydig o ŵyl.