Rydw i wedi bod yn dilyn ychydig o gyfrifon twitter sy’n trafod pêl-droed yr Unol Daleithiau yn ddiweddar, er mwyn asesu eu hagwedd at wynebu Cymru yng Nghwpan y Byd.

Rydw i wedi synnu o ddarllen mwy nag  un sylwebydd yn mynnu na ddyle Cymru fodoli fel tîm rhyngwladol.

“Dim gwlad go-iawn ydy Cymru,” medda un cyfrif poblogaidd, “ond lle ffug o Game of Thrones.”