Dw i’n falch iawn dros y menywod sy’n chwarae pêl-droed i Loegr.

Dw i’n falch iawn dros bawb sy’n dilyn y tîm.

Dw i’n cydnabod camp y tîm yn ennill Cystadleuaeth Ewro 2022.

Dw i’n falch bod gemau’r menywod wedi denu diddordeb a chynulleidfaoedd enfawr.

Dw i’n falch iawn bod un maes arall gam yn nes at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yn deall arwyddocâd symbolaidd llewyrch a llwyddiant yr Ewros eleni.