Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi cael ei ddiswyddo.

Mewn datganiad, dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw “wedi gwneud y penderfyniad i derfynu cytundeb Rob Page”.

Cafodd y Cymro ei benodi dros dro fis Tachwedd 2020, ac yn barhaol wedyn fis Medi 2022.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyrhaeddodd Cymru Ewro 2020 a Chwpan y Byd yn 2022 – eu Cwpan Byd cyntaf ers 1958.

Maen nhw hefyd wedi cyrraedd Cynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd o dan ei reolaeth.

Cafodd Page ei ddyrchafu ar ôl bod yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol dan 17, lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu chwaraewyr fel Dan James, Harry Wilson a Joe Rodon, ymhlith eraill.

Diswyddiad

Daw diswyddiad Rob Page ar ôl i’r tîm cenedlaethol fethu â chyrraedd yr Ewros am y tro cyntaf ers 2012.

Mae’r Cymro wrth y llyw ers tair blynedd a hanner, ond fe fu cryn bwysau arno yn dilyn canlyniadau diweddar y tîm, a dydy’r perfformiadau yn erbyn Gibraltar – gêm gyfartal ddi-sgôr – a Slofacia – colled o 4-0 – heb wneud ryw lawer i leddfu pryderon y Wal Goch.

Mae adroddiadau bod penaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau ers wythnos.

Roedd Page eisoes dan y lach ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd 2022, cyn i Gymru golli yn erbyn Armenia mewn gêm ragbrofol ar gyfer yr Ewros eleni, er iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl dros Croatia.

Lai na thri mis ers i’r Gymdeithas Bêl-droed gefnogi’r rheolwr yn gyhoeddus, mae’n ymddangos ei bod hi ar ben ar Rob Page.

Mae Cymru wedi ennill 15 o gemau allan o 45 ers iddo fe gael ei benodi, ac fe fyddan nhw’n herio Twrci ar Fedi 6 a Montenegro ar Fedi 9.

‘Diolch’

Mewn datganiad, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi diolch i Rob Page am ei waith gyda nhw dros gyfnod o saith mlynedd i gyd.

“Mae gwaith Rob wedi arwain at lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd rownd yr 16 olaf yn Ewro 2020, a mynd â’r tîm i bencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2022,” meddai’r Prif Swddog Pêl-droed, Dave Adams.

“Yn ystod ei gyfnod yn rheolwr, fe wnaeth 18 chwaraewr cynrychioli Cymru am y tro gyntaf.

“Wrth edrych tuag at y dyfodol, bydd y profiadau hyn yn cefnogi ein nod i sicrhau bod Tîm Cenedlaethol y Dynion yn cyrraedd pencampwriaethau Ewro a Chwpan y Byd yn gyson.”

‘Nifer o atgofion anhygoel i’n cenedl’

“Ar ran fy hun a’r holl Gymdeithas, hoffwn estyn ein diolch i Rob Page am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’w swyddi efo’r Timoedd Cenedlaethol,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed.

“O dan arweinyddiaeth Rob Page, mae ein tîm dynion Cymru wedi dathlu buddugoliaethau arwyddocaol sydd wedi creu nifer o atgofion anhygoel i’n cenedl, yn fwyaf nodedig ein Cwpan y Byd cyntaf mewn chwe deg pedair o flynyddoedd.

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein ‘Rhagoriaeth’, un o werthoedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd ar gyfer ein timoedd cenedlaethol a Phêl-droed Cymru.”

‘Angerdd dros Gymru yn amlwg’

“Rwy’n ddiolchgar dros ben am bopeth y mae Rob wedi’i wneud yn ei rôl fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru, ac rwyf am gofnodi fy niolchgarwch am fynd â Chymru i bencampwriaethau Ewro 2020 a Chwpan y Byd FIFA 2022,” meddai Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Roedd angerdd Rob dros Gymru yn amlwg dros y wlad trwy ei ymweliadau ag ysgolion, clybiau a chymunedau ledled Cymru. Rwy’n gwybod bod Rob yn falch iawn o fynd â’r cyhoeddiad o garfan Cwpan y Byd i’w dref enedigol, Pendyrys.”

‘Taith y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni’

Mae Aaron Ramsey, capten Cymru, wedi cyhoeddi datganiad ar ei gyfryngau cymdeithasol, yn diolch i Rob Page.

“Bu’n daith y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni, o’r Ewros i fynd â Chymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers ’58,” meddai.

“Yn bersonol, dw i jyst eisiau diolch yn fawr am bopeth rwyt ti wedi’i wneud i fi.

“Bu’n fraint gweithio gyda ti, yn ŵr bonheddig ac yn ddyn teulu.

“Bydda i a’r tîm yn fythol ddiolchgar am dy arweiniad.

“Byddwn ni’n trysori’r blynyddoedd diwethaf aeth heibio.

“@FAWales Diolch, Rambo.”

 

Disgwyl i Rob Page adael ei swydd yn rheolwr Cymru

Mae’r Cymro wedi bod wrth y llyw ers tair blynedd

“Fel dyddiau olaf Bobby Gould”

Alun Rhys Chivers

Mae’n anodd gweld dyfodol i Rob Page yn swydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn ôl Dylan Ebenezer
Rob Page

Noson rwystredig i Gymru yn erbyn Gibraltar

Gêm gyfartal ddi-sgôr i dîm di-brofiad Rob Page, oedd heb nifer o’r sêr ar gyfer y gêm gyfeillgar

“Rhaid i Gymru ddysgu sut i ennill yn frwnt”

Rhys Owen

Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl cyhoeddi ei garfan i wynebu Gibraltar a Slofacia

Rheolwr tîm pêl-droed Cymru am barhau yn ei swydd

Mae Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Rob Page yn gadael ar ôl methu â chyrraedd Ewro 2024

Diwedd y daith i Rob Page ac Aaron Ramsey?

Alun Rhys Chivers

Mae dyfodol y rheolwr yn “gwestiwn mawr”, medd Dylan Ebenezer, sy’n dweud na fyddai’n “synnu mai dyna hi o ran Aaron Ramsey” hefyd

Torcalon i Gymru

Alun Rhys Chivers

Wrth wynebu ciciau o’r smotyn am y tro cyntaf erioed, colli o 5-4 oedd hanes tîm Rob Page yn erbyn Gwlad Pwyl wrth geisio cyrraedd Ewro 2024