Mae angen i dîm pêl-droed Cymru ddysgu sut i “ennill yn frwnt”, yn ôl y rheolwr Rob Page.

Bu’n siarad â golwg360 ar ôl cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia, gan ddweud ei fod e hefyd yn cadw llygad ar ddatblygiad y garfan dan 17, sy’n chwarae yn yr Ewros, ar ffurf adroddiadau gan aelodau o’i staff.

“Ar yr oedran yna, rydyn ni wedi profi ein bod ni’n gallu cyrraedd y prif gystadlaethau,” meddai.

“Nawr, y cam nesaf mewn datblygiad yw cael y cydbwysedd yn iawn rhwng datblygu chwaraewyr ifanc a ffeindio ffyrdd o ennill.

“A hyd yn oed y timau yn yr Uwch Gynghrair sy’n mynd fyny, maen nhw eisiau chwarae brand da o bêl-droed, ond ar ddiwedd y dydd mae cefnogwyr eisiau gweld eu tîm nhw’n ennill hefyd.

“Felly, i’r garfan yna, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu sut i ennill gemau pêl-droed, a hynny efallai drwy chwarae’n frwnt am bum munud.”

Charlie Crew ac eraill yn codi tua’r brig

Dywed Rob Page hefyd fod galwad gyntaf Charlie Crew, sy’n chwarae i Leeds, yn arwyddocaol o’r llwybr i’r tîm cyntaf.

“Charlie Crew oedd capten y tîm dan 17 flwyddyn yn nôl, ac mae e nawr wedi dod i mewn i’r brif garfan, felly dydyn ni ddim yn chwarae o gwmpas os ydyn ni’n meddwl bod chwaraewr yn ddigon da.”

Un arall sydd wedi’i alw i’r brif garfan yw Rubin Colwill, sydd wedi bod yn chwarae efo’r tîm dan 21 yn ddiweddar, ac mae ei ddyfodol yn ei ddwylo’i hun, medd y rheolwr.

“Mae e’n un dw i’n edrych ymlaen at gael ei weld, oherwydd dw i’n meddwl bod gwell i ddod ganddo fe, yn sicr.

“Y sialens i Rubin nawr yw bod yn fwy cyson yn nhermau ei berfformiadau am amser hirach, a mynd tu hwnt i chwarae am 60 munud wedyn gorfod dod i ffwrdd.”

Ar ôl i Birmingham ostwng i’r Adran Gyntaf, sef trydedd gynghrair pyramid Lloegr, mae sôn y gallai Jordan James symud i dîm ar lefel uwch, ac mae Rob Page yn disgwyl i hynny ddigwydd.

“Yn sicr, yn fy marn i, gyda Jordan James, os oeddwn i’n rheolwr ar dîm yn yr Uwch Gynghrair neu Serie A, byddwn i’n ei gymryd e’n syth.

“Mae’r hyn mae e wedi’i wneud i ni yn arbennig; mae e wedi dangos blynyddoedd o aeddfedrwydd tu hwnt i’w oedran.”

 

@golwg360

Mae angen i dîm bêl-droed Cymru ddysgu sut i “ennill yn frwnt”, yn ôl rheolwr Rob Page ⚽️ Bu’n siarad â Golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd ar ôl cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia, gan ddweud ei fod e hefyd yn cadw llygaid ar ddatblygiad y garfan dan 17, sy’n chwarae yn yr Ewros, ar ffurf adroddiadau gan aelodau o’i staff. #cymru #wales @Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

♬ original sound – golwg360

Nifer o wynebau newydd yng ngharfan bêl-droed Cymru

Does dim lle i Aaron Ramsey na Wayne Hennessey i wynebu Gibraltar a Slofacia yr wythnos nesaf