Mae aelod o staff Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael ei wahardd o’r byd pêl-droed am ddeuddeg mis am fetio ar ganlyniadau gemau.

Yn dilyn gwrandawiad ac apêl, mae Huw Lake, Swyddog Cyswllt Chwaraewyr y clwb, hefyd wedi cael dirwy o £1,500.

Dechreuodd ei waharddiad ar Fawrth 25 ar ôl iddo gyfaddef torri rheolau Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Yn wreiddiol, roedd 75% o’i gosb wedi’i gohirio ond cafodd e gosb fwy llym yn dilyn yr apêl.

Dywed Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod nhw’n parhau i gefnogi Huw Lake, ac na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach.