Craig Bellamy yw rheolwr dros dro tîm pêl-droed Burnley, yn dilyn ymadawiad Vincent Kompany.

Yn ôl adroddiadau, roedd disgwyl i’r Cymro ymuno â Kompany yn Bayern Munich, ond dydy hynny ddim yn debygol bellach.

Mae Cymro arall, Steve Cooper, wedi dweud nad oes ganddo fe ddiddordeb yn swydd rheolwr Burnley yn barhaol.

Fe gwympodd Burnley o Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Roedd Craig Bellamy yn is-reolwr i Kompany yn Anderlecht cyn iddyn nhw symud i Burnley.