Mae nifer o wynebau newydd yng ngharfan bêl-droed Cymru, ond does dim lle i’r capten Aaron Ramsey na’r golwr Wayne Hennessey.

Bydd tîm Rob Page yn herio Gibraltar ar Fehefin 6 a Slofacia ar Fehefin 9.

Mae Ramsey yn dal i wella o anaf, ar ôl chwarae 13 gêm yn unig i Gaerdydd y tymor diwethaf, a dwywaith yn unig i Gymru yn ystod gemau rhagbrofol yr Ewros.

Mae pum chwaraewr heb gap yn y garfan, sef Lewis Koumas, Charlie Crew, Jay Dasilva, Fin Stevens a Tom King.

Danny Ward ac Adam Davies yw’r ddau golwr arall.

Mae Hennessey wedi ennill 109 o gapiau dros Gymru, ond doedd e ddim wedi chwarae i’w glwb Nottingham Forest y tymor diwethaf.

Does dim lle chwaith i’r ymosodwr Mark Harris, ond mae Dan James wedi’i gynnwys er gwaetha’r anaf i’w ben wrth chwarae i Leeds yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth dros y penwythnos.

Mae Ben Davies hefyd wedi’i gynnwys, ond mae’r cefnwr yn dal i wella o anaf i’w goes, tra bod David Brooks yn absennol ag anaf.

Does dim lle chwaith i Harry Wilson, Neco Williams, Morgan Fox na Dylan Levitt.

Y garfan

Danny Ward, Adam Davies, Tom King; Connor Roberts, Fin Stevens, Joe Rodon, Chris Mepham, Ben Cabango, Joe Low, Ben Davies, Jay Dasilva; Ethan Ampadu, Jordan James, Josh Sheehan, Charlie Savage, Charlie Crew, Brennan Johnson, Wes Burns, Rubin Colwill, Daniel James, Rabbi Matondo; Nathan Broadhead, Kieffer Moore, Liam Cullen, Lewis Koumas