Mae’n hawdd iawn cymryd yn ganiataol y dylai esgidiau gael eu gwerthu mewn parau, ond beth am y rhai sydd wedi colli troed neu goes?
Mae ymgyrch ar y gweill gan Stef Reid, para-athletwraig Baralympaidd, i annog cwmnïau chwaraeon i werthu esgidiau’n unigol.
Mewn neges ar ei blog, dywed ei bod hi wedi gweld llun o fodel pren yn gwisgo llafn rhedeg yn un o siopau Nike yn yr Unol Daleithiau.
Collodd hi ei choes 24 o flynyddoedd yn ôl mewn damwain ar ddŵr, ac mae’n dweud nad yw hi’n aml yn gweld delweddau’n aml iawn sy’n adlewyrchu ei phrofiadau hi o fod yn drychedig (amputee).
Ond buan y daeth i sylweddoli nad yw siopau chwaraeon yn darparu ar gyfer y rhai sydd wedi colli troed neu goes, a bod yn rhaid prynu esgidiau mewn parau o hyd.
Yn ôl Stef Reid, os yw cwmnïau’n arddangos modelau sydd wedi colli coesau, dylen nhw hefyd fod yn darparu ar gyfer y rhai mae’r ddelwedd honno’n realiti bob dydd iddyn nhw.
Ychwanega fod hynny’n hanfodol ar gyfer polisi cynhwysiant cwmnïau, a bod nifer o gwmnïau’n fodlon dangos cefnogaeth heb wneud y “gwaith caled”, ond y gallai bod yn gynhwysol fod yn arf ar gyfer busnesau mewn diwydiant cystadleuol.
Profiadau tebyg para-syrffiwr o Gymru
Un sy’n cefnogi ymgyrch Stef Reid yw Kirsty Taylor, para-athletwraig sy’n cystadlu dros Gymru yn y byd syrffio, ar ôl gorfod rhoi’r gorau i athletau.
Mae ganddi gyflwr talipes, sy’n golygu bod un droed yn fwy na’r llall ac felly gall cael gafael ar esgidiau fod yn her iddi hithau hefyd.
“Dw i’n credu bod llawer o bobol yn y byd sydd angen [gallu prynu esgidiau unigol],” meddai wrth golwg360.
“Yn bersonol, wrth dyfu i fyny, roedd gen i talipes, sy’n golygu bod gen i draed o feintiau gwahanol, oedd yn golygu fy mod i wedi wynebu trafferthion tebyg.
“Roeddwn i eisiau archebu esgidiau maint 2.5 a 5 ond doedd dim modd i fi wneud.
“Roedden ni wedi mynd at Nike a chwmnïau eraill, sydd weithiau’n rhedeg cynigion arbennig, ond os oedd modd archebu un esgid yn y maint sydd ei angen arnoch chi, dw i’n meddwl y byddai’n helpu llawer o bobol.
“Yn amlwg, mae gan bobol drychedig lafnau rhedeg, a dim ond un esgid rhedeg sydd ei hangen arnoch chi wedyn.
“Ond roedd yn rhaid i fi brynu dwy set o esgidiau ar y tro, a byddai dwy esgid yn mynd yn wastraff heb gael eu defnyddio o gwbl.
“Roedd hynny’n golygu dyblu’r gost ar gyfer cynnyrch oedd ei angen arna i.”
Costus
Yn ôl Kirsty Taylor, mae’r gost o fod yn bara-athletwr yn amrywio i bobol yn ôl eu hanghenion, yn enwedig y rhai sy’n cystadlu mewn mwy nag un gamp.
“Yn y byd para-chwaraeon, yn aml mae angen darn gwahanol o offer arnoch chi ar gyfer pob camp,” meddai.
“O ran rhedwyr, mae gennych chi lafnau rhedeg pellter byr a hir, neu mae gennych chi gadeiriau olwyn gwahanol.
“Ond gall pobol gadarn o gorff fynd i brynu un pâr o esgidiau a chwarae tenis neu ba bynng gamp ynddyn nhw.
“Mae costau offer yn rhwystr wrth fentro i’r byd chwaraeon, yn enwedig jest er mwyn rhoi cynnig arni – dydych chi ddim eisiau gwario llawer o arian cyn eich bod chi hyd yn oed yn gwybod os ydych chi’n hoffi’r gamp.
“Mae llawer o elusennau da sy’n eich galluogi chi i roi cynnig ar bethau neu logi offer am gyfnod, ond mae costau offer yn uchel iawn, ac mae hynny’n sicr yn rhwystr yn y byd para-chwaraeon.”
Ymateb cwmnïau chwaraeon
Ar ôl dod i wybod am ymgyrch Stef Reid, aeth golwg360 ati i holi nifer o gwmnïau am eu polisi o ran gwerthu esgidiau mewn parau neu’n unigol.
Faint ohonyn nhw, tybed, sy’n agored i’r syniad hyd yn oed?
Cafodd Nike, Adidas, Asics, Under Armour a Puma gais gennym am ymateb ddechrau mis Ebrill, ond wnaeth yr un ohonyn nhw ateb.
Dydy’r mater ddim yn bwsig iddyn nhw o ddydd i ddydd, medd Kirsty Taylor.
“Gall miliynau o’u cwsmeriaid brynu eu cynnyrch, a dyna maen nhw wedi arfer ag e,” meddai.
“Mae hi ychydig yn wahanol i’r norm os ydych chi’n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth gwahanol.
“Dw i’n deall mai’r lleiafrif yw hyn ac mae angen iddyn nhw redeg busnes sy’n gwneud elw ac mae ganddyn nhw eu gwerthoedd a’u ffyrdd eu hunain o weithredu, ond fe ddylai’r mater gael sylw.
“Mae’n un anodd, ond mae’n beth mawr gallu cerdded i mewn i siop a theimlo’n rhan o rywbeth a bod rhywbeth yno sy’n eich cynrychioli chi a bod modd mynd i brynu’r hyn sydd ei angen heb gost ychwanegol.
“Delfryd yw hyn.
“Ond o ran y cwmni, beth fydden nhw’n ei wneud â hanner arall y cynnyrch?
“Dw i’n deall y gallai arwain at golledion iddyn nhw.
“Maen nhw’n agored i ymholiadau, ond ‘Na’ yw’r ateb ran fwya’r amser ac nad oes modd iddyn nhw helpu na rhoi ystyriaethau gwahanol.”
Newid meddylfryd
Ai ceisio newid meddylfryd cwmnïau chwaraeon yw’r ateb felly?
“Mae Stef yn gwneud pwynt da yma,” meddai Kirsty Taylor.
“Pan ewch chi ar wefan Nike neu Adidas, mae ganddyn nhw lawer o sôn am allu addasu esgidiau a bod modd ysgrifennu enw arnyn nhw neu beth bynnag, felly dyw hi ddim fel pe na bai modd archebu rhywbeth sydd wedi cael ei addasu.
“Mae pobol bob amser eisiau pethau sydd wedi’u haddasu, gyda’u henwau arnyn nhw neu mewn lliwiau gwahanol ac ati, felly dw i’n sicr yn teimlo ei fod yn bosib.
“Ond mae’n fater o feddylfryd cwmnïau a’u hymwybyddiaeth o’r materion.
“Mae’n debyg nad ydyn nhw’n gwybod faint o bobol sydd wedi colli coesau neu sydd â choesau gwahanol i’r arfer fyddai’n elwa ar hynny.”
Ymgyrch “bwysig iawn”
O ystyried diffyg ymwybyddiaeth cwmnïau chwaraeon, felly, mae Kirsty Taylor yn teimlo’i bod hi’n bwysig iawn i athletwyr fel Stef Reid ddefnyddio’r llwyfan sydd ganddyn nhw i godi eu lleisiau.
“Mae Stef yn codi ei llais fel bod modd i bobol eraill leisio’u profiadau nhw,” meddai.
“Dw i’n credu bod pobol ag anableddau’n cael profiadau tebyg o ran dod o hyd i ddillad neu esgidiau addas.
“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig, felly, bod pobol fel Stef yn gallu defnyddio’u llwyfan a dylanwadu a chodi ymwybyddiaeth o’r broblem a denu sylw’r bobol sy’n gallu creu newidiadau yn y diwydiant.”