Mae gwerthu’r holl docynnau ar gyfer gêm ugain pelawd rhwng Lloegr a Phacistan yn dangos bod “awydd am griced yng Nghymru”, yn ôl Clwb Criced Morgannwg.
Bydd y belen gyntaf yng Ngerddi Sophia heno (nos Fawrth, Mai 28) yn cael ei bowlio am 6.30yh, a chafodd y tocynnau olaf eu gwerthu wythnos ymlaen llaw.
Bydd Lloegr yn dychwelyd i Gaerdydd ar Fedi 13 i herio Awstralia mewn gêm ugain pelawd, ac mae tocynnau ar gael am gyn lleied â £42 i oedolion a £12 i bobol ifanc dan 17 oed.
‘Awydd sy’n tyfu’n gyflym’
“Mae’n wych fod holl docynnau’r gêm rydyn ni’n ei chynnal yng Ngerddi Sophia rhwng Lloegr a Phacistan ar Fai 28 wedi’u gwerthu wythnos ymlaen llaw,” meddai Ed Rice, Pennaeth Masnachol Clwb Criced Morgannwg.
“Mae hyn yn dangos awydd sy’n tyfu’n gyflym am griced yng Nghymru.
“Gyda chae dan ei sang a disgwyl haul, bydd yn awyrgylch anhygoel i bobol ddod ynghyd am noson o griced ryngwladol T20.”
Ond mae’r rhagolygon tywydd wedi newid yn sylweddol bellach, a’r disgwyl yw y bydd glaw trwm yn y brifddinas ar gyfer y gêm.
Lloegr v Pacistan
Fydd Jos Buttler ddim yn chwarae yn y gêm gan fod ei wraig yn disgwyl eu trydydd plentyn.
Yn ei absenoldeb, gallai Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, gadw wiced a bydd Moeen Ali yn arwain y tîm, gyda Ben Duckett yn debygol o gael ei ddewis fel batiwr.
Mae Salt yn un o ddau chwaraewr yn y gêm sy’n enedigol o Gymru – y llall yw Imad Wasim, gafodd ei eni yn Abertawe.
Mae Lloegr ar y blaen o 1-0 yn y gyfres.
Bydd Lloegr yn ceisio amddiffyn eu teitl yng Nghwpan T20 y Byd yn y Caribî, gyda’u gêm agoriadol yn erbyn yr Alban ar Fehefin 4.