Bydd Rob Page yn parhau’n rheolwr ar dîm pêl-droed Cymru, er iddyn nhw fethu â chyrraedd Ewro 2024, yn ôl y BBC.

Mae’r wefan chwaraeon yn dyfynnu Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ar ôl y golled o 5-4 yn erbyn Gwlad Pwyl ar giciau o’r smotyn.

Roedd y tîm yn ceisio cyrraedd yr Ewros am y trydydd tro yn olynol.

‘Rob yw’r rheolwr’

“Gall Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau mai Rob Page yw eu rheolwr ar gyfer yr ymgyrch i ddod, yn unol â’i gytundeb,” meddai Steve Williams.

“Rob yw’r rheolwr.

“Mae ei gytundeb yn rhedeg tan ddiwedd Cwpan y Byd, a dyna sut y byddwn ni’n parhau i weithio.”

‘Ar y ffens go iawn’

Wrth siarad â golwg360 heddiw (dydd Mercher, Mawrth 27), dywedodd y cyflwynydd Dylan Ebenezer ei fod e “ar y ffens go iawn” ynghylch dyfodol Rob Page.

Roedd cryn drafod am ei ddyfodol yn dilyn Cwpan y Byd digon siomedig, er eu bod nhw wedi cymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.

Roedd Rob Page ei hun yn mynnu ei fod e am aros am y tro, ond mae Dylan Ebenezer yn teimlo bod dadleuon cryf o blaid ac yn erbyn hynny.

“Mae’n gwestiwn mawr,” meddai.

“Roedden ni’n trafod hyn neithiwr [ar Sgorio], ac mae yna lot o bobol sydd eisiau fe allan ac sydd wedi cael llond bol.

“Fy nheimlad personol neithiwr, o weld y gemau diweddar, yw fod Cymru wedi chwarae’n olreit.

“Fi’n credu bo nhw wedi bod yn chwarae’n eitha’ da, a byddai’n cymryd rhywun caled i wneud y penderfyniad yna nawr i gael gwared arno fe.

“Ond wedyn, sawl cyfle mae e’n mynd i gael? Mae e’n cael digon o gyfleoedd.

“Roedd Cwpan y Byd yn siomedig dros ben, ac eto dydyn nhw ddim wedi llwyddo i wneud beth oedden nhw eisiau ei wneud, sef cyrraedd yr Ewros.

“Dyna’r broblem, fi’n credu. Gallech chi ddadlau’n gryf y naill ffordd neu’r llall – ei bod hi’n amser am newid, ond gallech chi ddadlau’n hawdd ei fod e’n haeddu cyfle arall.

“Dw i’n falch mai nid fi sy’n gwneud y penderfyniad!

“Wnes i ofyn y cwestiwn i Joe Allen, un o’n chwaraewyr gorau ni erioed, ac roedd e’n teimlo’i fod e’n haeddu cyfle arall, a Gwennan Harries yn teimlo’i fod e’n haeddu cyfle arall.

“Roedd Joe yn holi cwpwl o bethau – a yw’r tîm wedi datblygu? Yr ateb i hynny, yn ôl llawer, yw ‘ydyn’.

“Hefyd, a yw’r chwaraewyr yn cefnogi’r rheolwr? Eto, ydyn.

“Byddai’n anodd iawn, a phwy sydd i ddod mewn?

“Iawn os oes gyda chi rywun i ddod mewn, ond dw i ddim yn siŵr.

“Yn reddfol, fi’n credu y byddan nhw’n aros gyda fe, ond fi ar y ffens go iawn!”

Diwedd y daith i Rob Page ac Aaron Ramsey?

Alun Rhys Chivers

Mae dyfodol y rheolwr yn “gwestiwn mawr”, medd Dylan Ebenezer, sy’n dweud na fyddai’n “synnu mai dyna hi o ran Aaron Ramsey” hefyd